M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Pelly yn sgorio llwyddiant trwy'r Rhwydwaith Angel

Charlie Jones

Mae Pelly, cwmni sydd wedi elwa’n aruthrol o’n cyflymydd Lefel Nesaf, yn datblygu meddalwedd i gefnogi y broses o recriwtio chwaraewyr pel droed ac ar hyn o bryd maent yn codi cyllid.

I gael rhagor o wybodaeth am Pelly gwyliwch y fideo hyrwyddo ‘ma:

Codi cyllid

Ar hyn o bryd maent yn chwilio am hyd at £250,000 i roi cychwyn ar eu busnes a thrwy’r Rhwydwaith Angylion, maent wedi llwyddo i sgorio cyllid o hyd at £50,000 a fydd yn hynod fuddiol i’w busnes!

Bydd hyn yn rhoi cic gychwyn iddynt i’w menter busnes ac hefyd yn caniatáu iddynt gymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn y cyflymydd Lefel Nesaf.

Dyweddodd Pelly bod “y rhwyddwaith Angylion yn sicr wedi cyfrannu at eu buddsoddiad cyntaf, a dyna’n union beth mae’r rhwydwaith yma i’w wneud”

Rhwydwaith Angylion

Am ddysgu mwy am gwmniau fel Pelly sydd yn codi cyllid neu’n awyddus i roi mentora iddynt? Ymunwch gyda’n rhwydwaith angylion i gael diweddariad pam fo cyfleoedd fel rhain yn codi…. https://m-sparc.com/angel/

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw