Ym mis Mawrth eleni, mae M-SParc yn cychwyn ar genhadaeth i droi’r tymor yn wyrdd gyda dau ddigwyddiad plannu coed arwyddocaol. Mae ein menter yn gweld plannu 250 o goed Nadolig ochr yn ochr â mwy na 100 o goed gwrychoedd, dau brosiect sy’n dod â chymuned, cynaliadwyedd a dysgu ynghyd mewn ffordd gyffrous.
Mewn partneriaeth arbennig gydag ysgolion lleol Canolfan Addysg Y Bont ac Ysgol Esceifiog, rydym yn cyflwyno cynllun “Plant4Plant”. Nid yw’r fenter hon yn ymwneud â phlannu coed yn unig; mae’n ymwneud â hau’r hadau ar gyfer dyfodol mwy disglair. Bydd holl elw’r prosiect o fudd uniongyrchol i Ganolfan Addysg Y Bont, gan gefnogi calon ein cymuned. Ein nod yw plannu 250 o goed sbriws Norwy yn M-SParc. Bydd y coed hyn nid yn unig yn gwneud ein safle’n wyrddach ond hefyd yn yr ystafelloedd dosbarth byw lle gall plant ac ymwelwyr ddysgu am fioamrywiaeth, ôl troed carbon, a hyd yn oed agweddau entrepreneuraidd rhedeg busnes cynaliadwy.
Mae’r cysyniad yn syml ond yn arloesol. Bydd y coed, sydd wedi’u plannu mewn potiau sy’n mynd yn y ddaear, yn cael eu rhentu allan yn ystod tymor y Nadolig, dim ond i ddychwelyd i M-SParc wedyn. Bydd y cylch hwn yn sicrhau bod y coed yn parhau i amsugno carbon deuocsid trwy gydol y flwyddyn, gan gefnogi ein hamgylchedd tra’n dod â llawenydd a chynaliadwyedd i’n cartrefi bob Nadolig.
Dwi’n gyffrous iawn am y plannu coed a gwrychoedd, bydd cael mwy o goed yn helpu i gynyddu’r fioamrywiaeth ar y safle, a gwella ansawdd y pridd a’r aer ac yn ein helpu i ddal CO2 wrth i ni weithio tuag at ein nod o fod yn NetZero erbyn 2030. Bydd y cyfle ychwanegol i weithio gydag ysgolion i annog menter busnes a chynaliadwyedd trwy raglen Plant4Plant yn wych i’r gymuned ac i’r dyfodol.
Dr Debbie Jones
Rheolwr Arloesi Carbon Isel, M-SParc
Mae prosiect Plant4Plant yn mynd y tu hwnt i gadwraeth amgylcheddol. Mae’n anelu i feithrin sgiliau entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr trwy greu hwb dysgu sy’n canolbwyntio ar blannu coed, addysg amgylcheddol, a datblygu busnes. Bydd myfyrwyr yn ymwneud â chreu cynlluniau busnes, datrys problemau yn greadigol, a chymhwyso sgiliau mathemategol, i gyd o fewn cyd-destun ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Pam dewis coeden go iawn dros un artiffisial? Mae coed Nadolig go iawn yn cyfrannu’n sylweddol at gadwraeth amgylcheddol, gan amsugno carbon deuocsid tra’n cynnig noddfa i fywyd gwyllt wrth iddynt dyfu. Mae coed artiffisial,, yn groes i hyn, wedi’u gwneud o blastigau na ellir eu hailgylchu, nad ydynt yn fioddiraddadwy, yn peri pryder amgylcheddol oherwydd y nwyon tŷ gwydr a ryddheir wrth eu cynhyrchu a’r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â’u cludo.
Gall coeden artiffisial 2 fetr gynhyrchu hyd at 40kg o allyriadau carbon. Mewn cymhariaeth, mae coeden go iawn, o’i thyfu’n gynaliadwy a’i hailgylchu’n naddion pren, yn arwain at lawer llai o 4kg o allyriadau carbon. Er mwyn i goeden artiffisial fod ag ôl troed carbon is nag un go iawn, byddai angen ei defnyddio am dros ddegawd. Fodd bynnag, mae coed a dyfir mewn potiau ar rent yn opsiwn hyd yn oed yn fwy cynaliadwy, gan gynnig y llawenydd o gael coeden fyw yn eich cartref heb yr euogrwydd amgylcheddol.
Mae ein hymrwymiad i wella bioamrywiaeth yn cael ei gryfhau ymhellach drwy blannu 105 o goed brodorol gan Coed Cadw. Bydd y coed hyn yn ehangu ein gwrychoedd, gan gynnig cyfle ymarferol i bobl ifanc a gwirfoddolwyr gyfrannu at ein hecosystem. Nod y fenter hon yw cynyddu’r amrywiaeth o adar a chwilod yn M-SParc, gan gyfoethogi ein bioamrywiaeth leol.
Mae ein mentrau yn M-SParc yn fwy na phlannu coed yn unig; maen nhw’n ymwneud â phlannu syniadau, meithrin twf, a dyfodol cynaliadwy. Trwy ymgysylltu ag ysgolion lleol, y gymuned a gwirfoddolwyr, nid yn unig tyfu coed yr ydym, ond hefyd meithrin ecosystem cyfoethocach, mwy amrywiol.
Mae ehangu ein gwrychoedd yn dyst i’r ymrwymiad hwn. Mae’r waliau byw yma yn hanfodol i wella bioamrywiaeth, creu coridorau i fywyd gwyllt ffynnu, a chynnig lloches i adar, pryfed a phlanhigion.
‘Dan ni’n eich annog i ymuno â ni ar y daith werdd hon—nid yn unig yn ysbryd y Nadolig ond fel ymrwymiad trwy’r flwyddyn i gynaliadwyedd. Boed trwy gymryd rhan yn ein digwyddiadau plannu, dewis coeden Nadolig fyw, neu rannu neges bioamrywiaeth a chadwraeth, mae pob cam yn cyfrif.
Gyda’n gilydd, gadewch i ni blannu’r hadau ar gyfer ddyfodol gwyrddach, mwy bioamrywiol, gan feithrin amgylchedd lle gall natur a chymunedau ffynnu ochr yn ochr.
Gad fi wybod os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli gyda’n plannu coed a gwrychoedd!
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.