Bydd hwn yn ofod aml-ddefnydd, yn gweithio fel swyddfa’r Rheolwr Gyfarwyddwr ac fel man cyfarfod. Wrth i M-SParc dyfu, mae y galw am le hefyd yn tyfu, a bydd y pod hwn yn cael ei adeiladu yn M-SParc ar ein llawr cyntaf.
Er mwyn cyrraedd ein nod Sero Net 2030 defnyddiodd Vousden dechneg sy’n gofyn am ddim metel na sgriwiau – gan leihau effaith carbon y gofod yn sylweddol. Bydd yr holl bren haenog o ffynonellau cynaliadwy yn slotio i mewn i’w gilydd heb osodiadau.
Rydym yn falch o fod yn cefnogi busnesau Cymraeg lleol unwaith eto. Er mwyn cefnogi’r dreftadaeth Gymreig, a threialu cynnyrch amgen, rydym yn insiwleiddio’r pod gyda gwlân defaid i ostwng ein biliau gwresogi! Yn y pod, byddwn yn defnyddio dyfais ‘Rhygnrwyd y Pethau’ i olrhain defnydd ynni.
Nid dyna ddiwedd y gân; byddwn yn cael wal fyw a fydd yn amsugno ein carbon a creu aur fwy pur. Edrychwn ymlaen yn fawr i osod y pod hwn yn yr ychydig wythnosau nesaf. Gwyliwch allan amdano!