Cyflwyniad
Rydym yn deall bod ein gweithgareddau’n effeithio ar yr amgylchedd ac rydym wedi ymrwymo i wella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n nodau Sero Net ehangach, sydd wedi’u hachredu gan y Cynllun Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth (SBTi).
Byddwn yn ceisio gwarchod ein hamgylchedd naturiol ac yn mynd ar drywydd cyfleoedd i’w wella, hyrwyddo diwylliant o stiwardiaeth amgylcheddol ymhlith ein staff, tenantiaid a phartneriaid a gweithio at nodau datblygu cynaliadwy.
Sero Net 2030
I M-SParc, mae dod yn Sero Net erbyn 2030yn egwyddor flaenllaw, egwyddor graidd arall yw dod â’n hecosystem gyda ni ar y daith hon. Cafodd ein cynlluniau Sero Net 2030 eu lansio am y tro cyntaf yn 2022 gyda’r nod uchelgeisiol o fod y parc gwyddoniaeth cyntaf yn y DU i gyrraedd sero net. Ers hynny, mae’r tîm Egni wedi bod yn gweithio i ddatblygu cynlluniau cadarn a chynhwysfawr ac wedi dechrau eu rhoi ar waith. Mae ein targedau Sero Net 2030 yn cael eu cymeradwyo gan y Cynllun Targed Seiliedig ar Wyddoniaeth (SBTi) – corff safoni sy’n adnabyddus yn rhyngwladol – fel rhai sy’n bodloni gofyniad protocol Hinsawdd Paris 2015, gan ein gosod fel arweinwyr o ran y newid i garbon isel. Mae ein Hôl Troed Carbon diweddaraf yn 2024 yn dangos 154,115 kg Co2e, sy’n ostyngiad o 19% o’i gymharu â’n llinell sylfaen ar gyfer 2023.
Polisi
Byddwn yn lleihau ein heffeithiau amgylcheddol niweidiol drwy wneud y canlynol:
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ddeddfwriaethau a rhwymedigaethau perthnasol sy’n gysylltiedig â’n gweithgareddau
Sicrhau bod yr holl staff wedi’u hardystio fel rhai sy’n deall carbon drwy ddarparu cyrsiau achrededig llythrennedd carbon yn fewnol yn rheolaidd
Lleihau ein cyfraniad at newid hinsawdd byd-eang drwy leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr o un flwyddyn i’r llall
Hyrwyddo a chynyddu cadwraeth a gwella bioamrywiaeth ar draws y safle
Lleihau’r defnydd o ynni a dŵr ar y safle drwy ein hymgyrch ‘diffodd y sbarc’
Rheoli gwastraff drwy leihau, ailddefnyddio a hyrwyddo ailgylchu
Hyrwyddo cynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy
Gwreiddio cynaliadwyedd yn y gweithdrefnau caffael
Ymrwymo i atal llygru’r amgylchedd naturiol
Gwreiddio datblygiadau cynaliadwy ac ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn ein gwaith (yn fewnol ac yn allanol)
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.