Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyflwyniad

Fel is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor, mae’r polisi hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad hirsefydlog y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cenhadaeth M-SParc yw “tanio uchelgais ac arloesedd i bweru Cymru gynaliadwy”. Ni ellir cyflawni hyn heb ymrwymo’n llawn i’n cyfrifoldebau i gyflawni dyletswyddau cyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau sy’n benodol i Gymru – ymrwymo i amgylchedd dwyieithog a deall pwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Ein nod yw darparu amgylchedd a phrofiad cynhwysol i staff, tenantiaid ac ymwelwyr/rhanddeiliaid sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl ac sy’n adeiladu ar y cryfderau mae’r gwahaniaethau hynny yn eu rhoi i M-SParc o ran manteisio i’r eithaf ar botensial, gan sicrhau bod pawb yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys mewn penderfyniadau a fydd yn arwain at gyflawni’r canlyniad gorau yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i

  • Yr holl staff a gyflogir gan M-SParc
  • Yr holl internïaid, myfyrwyr, prentisiaid a chyfranogwyr yn rhaglenni M-SParc.
  • Holl ymwelwyr a defnyddwyr mannau cymunedol a/neu fannau cyffredin adeilad M-SParc (boed hynny yn safleoedd Gaerwen, Ar y Lôn ac ati) a/neu pan fyddant allan ar leoliad yn cynnal digwyddiadau (ysgolion/colegau/y gymuned/Eisteddfod ac ati)

Disgwylir i fusnesau sy’n denantiaid gynnal egwyddorion y polisi hwn yn eu sefydliadau eu hunain.

Pwrpas

Pwrpas y polisi hwn yw:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol a safonau’r diwydiant
  • Chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan a chreu cyfle cyfartal
  • Hyrwyddo diwylliant cynhwysol ar draws gweithgareddau M-SParc
  • Cefnogi piblinellau talent amrywiol yng ngwaith M-SParc
  • Annog arferion cynhwysol ymysg yr holl sefydliadau a phartneriaid sy’n denantiaid.

Mae M-SParc hefyd yn ceisio cyflawni gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sef:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd dan y Ddeddf
  • Datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion a’r rheini nad ydynt yn rhannu nodweddion
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion a’r rheini nad ydynt yn rhannu nodweddion.

Cydraddoldeb

Rydym yn ymrwymo i sicrhau na fydd unigolion yn cael eu gwahaniaethu ar sail:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd
  • Rhyw
  • Beichiogrwydd neu famolaeth
  • Hil, ethnigrwydd neu gefndir diwylliannol
  • Crefydd neu gred
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Priodas neu bartneriaeth sifil
  • Cefndir economaidd-gymdeithasol
  • Unrhyw nodwedd arall a warchodir gan y gyfraith

Yn ogystal â’r ddyletswydd gyffredinol, mae Dyletswyddau Cydraddoldeb penodol yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi’u nodi yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Cafodd y dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru eu harwain gan bedair egwyddor:

  1. defnyddio tystiolaeth,
  2. ymgynghori a chynnwys ,
  3. tryloywder,
  4. arweinyddiaeth.

Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau penodol, rhaid i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys M-SParc fel is-gwmni i Brifysgol Bangor wneud y canlynol:

  • Creu sylfaen dystiolaeth sy’n berthnasol i’w swyddogaethau
  • Ymgysylltu â staff
  • Asesu effaith polisïau ac arferion
  • Datblygu amcanion gwahaniaeth cyflog
  • Datblygu amcanion cydraddoldeb
  • Adrodd ar gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd
  • Ymgorffori cydraddoldeb ym mhob swyddogaeth

Mae trosolwg o weithgareddau a chynnydd M-SParc yn cael ei adrodd yn flynyddol i’r bwrdd sy’n mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y gweithle yn ogystal ag amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith.

Amrywiaeth

Rydym yn gwerthfawrogi profiadau a safbwyntiau unigryw unigolion. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Annog piblinellau recriwtio amrywiol *bydd rhai rolau lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, i eraill bydd y Gymraeg yn ddymunol
  • Meithrin amgylcheddau lle gall timau rhyngddisgyblaethol gydweithio’n effeithiol.
  • Hyrwyddo amrywiaeth mewn arweinyddiaeth, rhaglenni cyllido a digwyddiadau cymunedol/allgymorth.

Cynhwysiant

Rydym yn ymrwymo i’r canlynol:

  • Darparu mynediad teg at gyfleusterau a chyfleoedd
  • Sicrhau bod yr adeilad (Tanio, mannau gwaith a rennir, swyddfeydd, labordai, gweithdai, ystafelloedd cyfarfod, lleoliadau Ar y Lôn, digwyddiadau) yn hygyrch ac yn groesawgar
  • Mynd ati i nodi a dileu rhwystrau systemig
  • Annog arferion cyfathrebu a gwneud penderfyniadau cynhwysol.

Ein Cyfrifoldebau

Rhaid i bawb a gyflogir gan M-SParc neu wirfoddolwyr (fel aelodau bwrdd neu leoliadau gwaith di-dâl) ddeall eu cyfrifoldebau o ran cefnogi cydraddoldeb.

Mae gan bawb sy’n aelod o dîm M-SParc gyfrifoldeb i sicrhau bod ein hymrwymiadau, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd yn cael eu cymhwyso a’u hyrwyddo. Efallai y bydd gan wahanol grwpiau o staff gyfrifoldebau gwahanol ac mae rhai o’r rhain wedi’u nodi isod:

Rhaid i bob aelod o staff wneud y pethau hyn:

  • Trin pob aelod o gymuned M-SParc ag urddas a pharchu eu hawliau a’u credoau
  • Ymateb yn gadarnhaol ac yn gynhwysol i wahaniaethau unigol
  • Herio neu roi gwybod am achosion o wahaniaethu neu fwlio
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant EDI lle bo angen.

Dylai rheolwyr llinell wneud yr uchod i gyd, a:

  • Sicrhau bod Ymrwymiad Cydraddoldeb a Chynllun Gweithredu Strategol Prifysgol Bangor yn cael ei gyfleu i staff newydd
  • Dosbarthu gwybodaeth i sicrhau bod staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau
  • Sicrhau bod yr holl staff yn eich tîm wedi cael yr hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth perthnasol
  • Cefnogi anghenion ac amgylchiadau unigol staff er mwyn iddynt allu perfformio’n effeithiol.

Hyfforddiant Cydraddoldeb

Mae hyfforddiant i staff ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn un o amcanion allweddol M-SParc. Fel rhan o broses gynefino gweithiwr newydd:

  • Rhaid i staff gwblhau’r modiwl Cydraddoldeb a’r modiwl Rhagfarn Ddiarwybod ar-lein fel rhan o’u cyfnod prawf (a ddarperir gan Brifysgol Bangor)
  • Rhaid i bob rheolwr gwblhau’r gweithdy Cydraddoldeb i Reolwyr (a ddarperir gan Brifysgol Bangor).

Recriwtio, Cyfleoedd a Chynnydd

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Defnyddio prosesau recriwtio teg a thryloyw sy’n ymwybodol o ragfarn
  • Annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli
  • Darparu mynediad cyfartal at Gynlluniau Datblygu Proffesiynol (llwybrau hyfforddi, mentora ac arwain)
  • Hysbysebu swyddi a chyfleoedd yn eang ac yn hygyrch.

Hygyrchedd ac Addasiadau Rhesymol

Rydym yn ymrwymo i sicrhau cyfleusterau hygyrch gan gynnwys mynedfeydd, labordai, gweithdai, swyddfeydd, mannau digwyddiadau a llwyfannau digidol. Darperir addasiadau rhesymol ar gyfer:

  • Ymgeiswyr am Swyddi
  • Gweithwyr
  • Tenantiaid
  • Ymwelwyr

Mae hyn yn cynnwys addasiadau ffisegol, technolegol neu weithdrefnol.

Mice making science

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.