Ein Datganiad Cenhadaeth Iaith Gymraeg:
Yn M-SParc, mae’r Gymraeg yn rhan o bwy ydym ni, mae’n siapio ein cymuned ac yn ein helpu i danio uchelgais. Drwy roi’r iaith wrth galon ein gwaith, rydym yn dangos bod diwylliant a thechnoleg yn gallu sbarduno arloesi.
Y FFORDD RYDYM YN CYFATHREBU – CREU CYSYLLTIADAU
Ein hymrwymiad:
Yn M-SParc, mae’r Gymraeg yn rhan annatod o bwy ydym ni. Rydym yn ei defnyddio’n naturiol, yn hyderus ac yn falch ym mhopeth a wnawn, mewn sgyrsiau bob dydd a datblygiadau arloesol sy’n arwain y byd. Rydym yn gweld dwyieithrwydd fel cryfder, mae’n helpu i wneud ein gwaith yn fwy creadigol, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cysylltiedig. Rydym yn gwerthfawrogi dewis pobl i ymgysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg, a byddwn bob amser yn gwneud y Gymraeg yn ddewis amlwg a rhagweithiol yn y ffordd rydym yn gweithio.
Sut rydym yn cyflawni hyn o ddydd i ddydd:
1. Gohebiaeth ysgrifenedig
1.1 Rydym yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os byddwn yn cael gohebiaeth yn Gymraeg, byddwn bob amser yn ateb yn Gymraeg.
1.2 Rydym yn credu yn y cynnig rhagweithiol, bydd ein gohebiaeth yn datgan yn glir ein bod yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg, ac ni fydd gwneud hynny’n arwain at oedi.
1.3 Rydym yn chwilio am gyfleoedd i gynnwys y Gymraeg wrth gyfathrebu ac ymgysylltu bob dydd drwy ddefnyddio cyfarchion a llofnodion Cymraeg ar bob gohebiaeth, gan gynnwys pan fydd y prif gynnwys yn Saesneg. Mae hyn yn golygu bod ein diwylliant dwyieithog yn weladwy a’n bod yn gynhwysol ym mhopeth a wnawn.
1.4 Bydd llofnodion e-bost a negeseuon allan o’r swyddfa yr holl staff yn ddwyieithog.
2. Dros y ffôn
2.1 Bydd pob galwr yn cael ei gyfarch yn Gymraeg, ac yn cael ei annog i barhau yn ei ddewis iaith. Pan na fydd aelod o staff yn gallu delio â’r ymholiad yn hyderus yn Gymraeg, bydd galwyr yn cael cynnig trosglwyddo i gydweithiwr sy’n siarad Cymraeg.
3. Gwefan a llwyfannau digidol
3.1 Bydd dyluniad ein gwefan a’n llwyfannau digidol yn gwbl ddwyieithog, gan sicrhau defnydd a phrofiad di-dor i ddefnyddwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd togl iaith amlwg ar gael i sicrhau bod ymwelwyr yn cael cynnig rhagweithiol.
3.2 Bydd unrhyw dechnoleg, ap neu system ddigidol newydd rydym yn ei datblygu neu’n ei chomisiynu yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o’r dyluniad, nid yn cael ei hychwanegu.
4. Cyfryngau cymdeithasol
4.1 Bydd holl gynnwys angor M-SParc yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda’r Gymraeg fel arfer yn ymddangos yn gyntaf.
4.2 Byddwn yn defnyddio’r Gymraeg yn greadigol ac yn hyderus ar ein sianeli, gan ddangos ei bod yn perthyn i sgyrsiau bob dydd, modern a thechnolegol.
4.3 Pan fyddwn yn ail-rannu cynnwys trydydd parti, bydd ein sylwadau’n cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog.
4.4 Pan fydd rhywun yn gadael sylwadau ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n bod yn teimlo bod angen i ni ymateb, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg.
4.5 Pan fydd rhywun yn cysylltu â ni’n uniongyrchol yn Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn ateb yn Gymraeg fel y byddem yn ei wneud gydag unrhyw fath arall o ohebiaeth.
5. Brand a hunaniaeth
5.1 Mae ein brand yn naturiol ddwyieithog. Mae ein hunaniaeth weledol, tôn ein llais, a’n straeon yn adlewyrchu ein diwylliant dwyieithog ac yn sicrhau y bydd yr iaith bob amser wrth galon ein brand.
5.2 Byddwn yn dangos y Gymraeg mewn ffordd fodern a chreadigol sy’n adlewyrchu ein rôl o ran llunio dyfodol arloesedd yng Nghymru a byddwn yn ehangu’r defnydd ohoni yn ein sector.
6. Cyhoeddiadau a deunyddiau hyrwyddo
6.1 Bydd yr holl gyhoeddiadau, ffurflenni a deunyddiau hyrwyddo sydd ar gael i’r cyhoedd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ffafrio dogfennau dwyieithog unigol sydd wedi’u gosod ar fformat ‘wyneb i waered’ neu mewn ffordd lle mae’r Gymraeg yn debygol o gael ei darllen yn gyntaf. Pan nad yw hynny’n bosibl, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ochr yn ochr.
6.2 Bydd cyhoeddiadau a deunyddiau atodol Cymraeg bob amser yn glir, yn naturiol ac yn ddilys.
7. Gweithgarwch y cyfryngau
7.1 Bydd pob datganiad i’r wasg a’r cyfryngau yn cael ei gyhoeddi’n ddwyieithog, a byddwn yn ymgysylltu’n rhagweithiol â chyfryngau Cymraeg a Saesneg.
7.2 Bydd datganiadau adweithiol i’r cyfryngau yn cael eu cyhoeddi yn iaith y cyhoeddiad.
7.3 Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cynnig siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau â’r cyfryngau, gan leoli M-SParc fel arweinydd meddwl yn ddwyieithog ym maes gwyddoniaeth, technoleg ac entrepreneuriaeth.
8. Ymgysylltu
8.1 Byddwn yn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r ffordd rydym yn ymgysylltu â phartneriaid, tenantiaid a chymunedau er mwyn i bawb deimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu cynrychioli.
8.2 Pan fyddwn yn trefnu digwyddiadau, cynadleddau neu gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd, byddwn yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys yn llawn drwy:
8.3 Bydd yr holl ddeunydd ymgysylltu neu ymgynghori ysgrifenedig yn cael ei gynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
8.4 Byddwn yn annog ac yn cefnogi ein tenantiaid a’n partneriaid i groesawu’r Gymraeg yn eu cyfathrebiadau, eu brand a’u digwyddiadau eu hunain, drwy gynnig arweiniad ac adnoddau.
8.5 Byddwn yn darparu gweithdai, allgymorth a chyfleoedd ymgysylltu STEM yn Gymraeg, neu’n ddwyieithog, lle bynnag y bo modd, gan sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gweld y Gymraeg fel iaith arloesi a chyfleoedd.
9. Gofodau ac Arwyddion
9.1 Bydd siaradwr Cymraeg bob amser wrth law yn ein derbynfa i sicrhau bod ymwelwyr yn cael eu croesawu’n Gymraeg, a bydd ein siaradwyr a’n dysgwyr Cymraeg hefyd yn gwisgo bathodynnau ‘iaith gwaith’ i’w gwneud yn hawdd eu hadnabod.
9.2 Bydd yr holl arwyddion mewnol ac allanol yn ddwyieithog ac wedi’u dylunio gyda’r un amlygrwydd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein partneriaid masnachol yn mabwysiadu’r egwyddor hon yn ‘Tanio’.
9.3 Bydd ein mannau cyffredin yn adlewyrchu ac yn dathlu ein diwylliant dwyieithog, gan ei wneud yn weladwy i bawb sy’n ymweld ag M-SParc.
Y FFORDD RYDYM YN CEFNOGI AC YN DATBLYGU CYDWEITHWYR – MAGU HYDER
Ein hymrwymiad:
Yn M-SParc, rydym yn gweld dwyieithrwydd fel cryfder sy’n helpu i danio creadigrwydd, meithrin cynhwysiant, a’n cysylltu â’n cymuned. Byddwn yn gwneud lle i’r Gymraeg ffynnu drwy gefnogi pob cydweithiwr i ddatblygu ei sgiliau iaith a’i hyder. Byddwn yn dathlu cynnydd ar bob lefel, gan gydnabod bod pob gair ac ymdrech yn gwneud gwahaniaeth.
Sut rydym yn cyflawni hyn o ddydd i ddydd:
10. Recriwtio
10.1 Mae staff sy’n siarad Cymraeg yn rhan annatod o gyflawni ein hymrwymiadau a sicrhau bod yr iaith yn rhan o fywyd bob dydd M-SParc.
11. Ymwybyddiaeth
11.1 Rydym am i bob cydweithiwr deimlo’n rhan o’n diwylliant dwyieithog.
12. Hyfforddiant a Datblygiad
12.1 Byddwn yn ennyn hyder staff i ddysgu a gwella eu Cymraeg ac i barhau i feithrin eu sgiliau dros amser.
13. Cymorth
13.1 Rydym am i ansawdd ein Cymraeg adlewyrchu ansawdd ein sefydliad.
Y FFORDD RYDYM YN DYLANWADU AR ERAILL – TANIO BRWDFRYDEDD
Ein hymrwymiad:
Mae M-SParc yn fwy nag adeilad – rydym yn gymuned ac yn gatalydd. Mae’r Gymraeg yn rhan o’r ffordd rydym yn llunio’r gymuned honno, yn ysbrydoli eraill yn ein sector, ac yn arwain drwy esiampl. Rydym yn credu bod defnyddio’r Gymraeg mewn gwyddoniaeth, technoleg ac entrepreneuriaeth yn helpu i normaleiddio’r iaith mewn mannau lle nad yw bob amser wedi bod yn weladwy, ac yn gwneud ein sector yn gryfach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy unigryw.
Sut rydym yn cyflawni hyn o ddydd i ddydd:
14. Cefnogi ein Tenantiaid
14.1 Byddwn yn annog ein tenantiaid i gofleidio’r Gymraeg yn eu gwaith eu hunain, megis brandio, arwyddion, cynnwys a digwyddiadau digidol.
14.2 Byddwn yn dathlu ac yn arddangos cwmnïau tenant sy’n defnyddio’r Gymraeg yn greadigol ac yn ddilys, gan eu gosod fel modelau rôl yn ein cymuned.
14.3 Pan fo’n briodol, byddwn yn darparu cymorth ac arweiniad ymarferol i denantiaid sy’n dymuno cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg ac ymgorffori’r iaith yn ymarferol yn eu gweithrediadau.
15. Siapio’r Sector
15.1 Byddwn yn defnyddio ein llwyfan i ddylanwadu ar yr ecosystem arloesi, cymorth busnes a thechnoleg ehangach yng Nghymru, gan dynnu sylw at y ffaith bod dwyieithrwydd yn fodern, yn broffesiynol ac yn gam i’r dyfodol.
15.2 Drwy wreiddio’r Gymraeg mewn diwydiannau newydd fel ynni gwyrdd, technoleg greadigol ac entrepreneuriaeth ddigidol, byddwn yn helpu i wneud yr iaith yn rhan o gyfleoedd yfory yn ogystal â heddiw.
15.3 Wrth ddarparu prosiectau, byddwn yn sicrhau bod gweithgarwch yn cyd-fynd ag egwyddorion y polisi hwn a byddwn yn defnyddio’r llwyfannau hynny i rannu ein dysgu a’n harferion gorau â phartneriaid, cyllidwyr a rhwydweithiau, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn alluogwr twf a chreadigrwydd, nid yn rhwystr.
16. Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf
16.1 Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd ymgysylltu, allgymorth a mentora STEM yn Gymraeg, gan sicrhau bod pobl ifanc yn gweld yr iaith fel rhan naturiol o arloesi a darganfod.
16.2 Byddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith uchelgais, gan ddangos i arloeswyr y dyfodol nad oes angen iddynt ddewis rhwng cyfle byd-eang a hunaniaeth leol.
Y FFORDD RYDYM WEDI YMGORFFORI’R IAITH – CAEL EFFAITH
Ein hymrwymiad:
Yn M-SParc, nid rhywbeth ychwanegol yw’r Gymraeg, mae’n llinyn sy’n rhedeg drwy ein holl gynlluniau, prosiectau a mentrau. Byddwn yn sicrhau bod pob polisi, rhaglen a syniad rydym yn ei ddatblygu yn adlewyrchu’r ymrwymiadau yn y polisi hwn, ac ni fydd unrhyw beth rydym yn ei gyflawni yn tanseilio ein huchelgais i weld y Gymraeg yn ffynnu wrth arloesi.
Sut rydym yn cyflawni hyn o ddydd i ddydd:
17. Ystyried Effaith
17.1 Cyn lansio unrhyw brosiect, polisi neu ffordd newydd o weithio, byddwn yn gofyn cwestiwn syml i ni’n hunain: beth mae hyn yn ei olygu i’r Gymraeg?
18. Monitro ac Adrodd
18.1 Byddwn yn adolygu ein gweithgarwch iaith Gymraeg bob blwyddyn, gan edrych ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni a lle gallwn wneud mwy.
18.2 Byddwn yn gwrando ar adborth gan gydweithwyr, tenantiaid a phartneriaid i ddeall eu profiadau o’n diwylliant dwyieithog.
18.3 Byddwn yn rhannu ein cynnydd yn agored, gan ddathlu llwyddiant a dysgu o heriau, fel bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn ein cymuned arloesol.
19. Adborth
19.1 Byddem wrth ein bodd yn clywed ein bod wedi tanio llwyddiant, ac rydym eisiau gwybod pryd y gallwn wneud yn well. Mae adborth ar ein defnydd o’r Gymraeg yn rhan o sut rydym yn tyfu ac yn gwella. Drwy wrando a dysgu, gallwn barhau i adeiladu gwasanaeth sy’n ddwyieithog, yn greadigol ac yn gynhwysol ar bob lefel.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.