Prif Weinidog Cymru yn croesawu cynlluniau twf sylweddol M-SParc

Ymwelodd Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn, ag M-SParc yn ddiweddar i weld y cyfleoedd sylweddol i dyfu ac ehangu ar safle’r Parc Gwyddoniaeth.

Yn ystod yr ymweliad, aeth Rhun ar daith o amgylch y safle gydag aelodau o dîm M-SParc a chlywodd sut y bydd y datblygiad yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer arloesedd, sgiliau, twf busnes a chyflogaeth gwerth uchel ledled Gogledd Cymru.

Ers agor yn 2018, mae M-SParc wedi dod yn un o ecosystemau arloesi blaenllaw Cymru, gan gefnogi busnesau sy’n gweithio ar draws sectorau gan gynnwys ynni carbon isel, technoleg ddigidol, technoleg amaethyddol, iechyd a gweithgynhyrchu uwch. Mae’r safle’n gartref i gymuned gynyddol o fusnesau, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid, gyda’r galw am le yn parhau i gynyddu.

Mae’r datblygiad diweddaraf yn nodi’r bennod nesaf yn nhwf M-SParc, gan ehangu gallu’r safle i gefnogi busnesau sy’n awyddus i leoli, cydweithio a thyfu yng Ngogledd Cymru. Mae gweddill y safle yn rhan o Borthladd Rhydd ac yn barod i’w ddatblygu.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth :

“Yn fy rôl fel aelod lleol, rwyf wedi cael y fraint o weld M-SParc yn mynd o nerth i nerth ers iddo agor ei ddrysau yn 2018, ac mae’r gwaith diweddaraf i ehangu’r safle yn cynrychioli’r bennod nesaf mewn stori gyffrous i’r parc gwyddoniaeth.

“Mae creu hybiau economaidd i fusnesau lleol arloesi, derbyn cefnogaeth, cydweithio, ac ehangu eu gorwelion yn hollbwysig, ac mae M-SParc yn destun prawf o’r twf economaidd a’r swyddi o safon gall ddeillio ohonynt.

“Rwyf wir yn edrych ymlaen at weld pa fusnesau eraill sy’n manteisio ar y cyfle i ymuno a theulu M-SParc yn y dyfodol, a pharhaf barod i gydweithio efo fy nghyd aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn i gefnogi’r parc.”

Pryderi and Rhun

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

“Roedd hi’n bleser croesawu Rhun i M-SParc a dangos iddo’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar y safle a’n uchelgais i ddatblygu’r safle yn bellach.”

“Fel rhywun sydd wedi cynrychioli Ynys Môn ers blynyddoedd lawer, mae’n deall y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r rhanbarth. Roedd yn werthfawr trafod sut y gall arloesedd, sgiliau a thwf busnes helpu i greu ffyniant hirdymor i gymunedau ledled Gogledd Cymru.

“Mae datblygiad parhaus M-SParc yn adlewyrchu’r uchelgais sy’n bodoli yma ar yr ynys ac ar draws y rhanbarth ehangach. Da ni’n gyffrous am yr hyn sy’n dod nesaf!”

rhun o flaen yr contruction

Ers agor, mae M-SParc wedi cefnogi creu mwy na 150 o yrfaoedd gwerth uchel, dros 100 o interniaethau a lleoliadau diwydiannol, ac wedi helpu i ddenu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Ogledd Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd i ddatblygu ar safle M-SParc

m-sparc.com/build-and-invest

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.