M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Profiad gwaith yr haf gyda ongl arloesol…

Charlie Jones

Yn ein lleoliadau #ArYLôn, fe ddaru ni gynnal rhaglen Profiad Gwaith haf ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed.

Bob dydd rydyn ni’n wynebu sefyllfa lle rydyn ni’n meddwl “Bysa’n wych os bysa rwyn yn datrys y broblem yma, byswn i’n hoffi helpu’r bobl hyn trwy wneud x,y a z” a dyna’n union be’ wnaeth 4 person ifanc uchelgeisiol o Ynys Môn a Gwynedd yn ein lleoliadau #ArYLon .

Nod y cynllun hwn oedd cael pobl ifanc i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd a chyflwyno’r syniad busnes sydd ganddynt! Byddent wedyn yn derbyn cyllid a chymorth busnes gan M-SParc i helpu eu syniadau i gychwyn.

Siwan Jones yn cynnal grŵp ffocws yn Wythnos Croeso Prifysgol Bangor
Ein rhaglen Cychwyn Busnes yr Haf yn derbyn cefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru

Yn ystod ei amser #ArYLôn cawsant fynediad i gofod gwneud Ffiws lle roedd modd prototeipio a phrofi eu syniadau anhygoel gyda chymorth ein technegydd Ffiws. Cawsant hefyd ofod desg am ddim a mynychy nifer o ddigwyddiadau gan yr Hwb Menter a Syniadau Mawr Cymru.

Y 4 ymgeiswyr llwyddiannus yw Cian Woodford, Ffion Bee, Siwan Jones ac Isabella Castellanos.

Ffion Bee yn arddangos ei phoster yn yr Wythnos Groeso
Isabella Castellanos gyda’i gwaith a greodd ar gyfer M-SParc

Mae Ffion ac Isabella wedi gwneud posteri o’u gwaith i ni yma yn M-SParc ac wedi mynychu Ffair wsos cychwyn ym Mhrifysgol Bangor, gan ddosbarthu’r posteri i fyfyrwyr a hyrwyddo brand M-SParc ar y diwrnod.

Mae Siwan, sydd wedi graddio o Brifysgol Bangor, wedi bod yn derbyn cymorth a chyllid gan y Brifysgol drwy B-fentrus. Mae hi wedi cael cymorth a chefnogaeth bellach drwy’r cynllun hwn. Manteisiodd Siwan hefyd ar y cyfle yn yr wythnos groeso i gynnal grŵp ffocws gyda myfyrwyr ar y blychau llyfrau y mae hi wedi bod yn eu creu.

Byddwn yn parhau i gefnogi’r entrepreneuriaid ifanc ar eu taith fusnes a dymuno’r gorau iddynt yn y dyfodol!

Newyddion Perthnasol