M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Rhaeadr o Ddata

Mae dau o’n tenantiaid, EvoMetric a Lafan Consulting, wedi bod yn cydweithio ar brosiect o’r enw Dewin.Dwr. Nod hyn yw arloesi sut mae defnyddwyr yn profi am lygryddion mewn dŵr, gan chwyldroi ffermio o bosibl!

Dechreuodd y daith anhygoel hon yn yr Hac Amaeth, a gafodd ei gynnal gan M-SParc. Ar ôl cyflwyniad gwych, aethant ymlaen i ennill cyllid i helpu i roi’r syniad ar waith! Heb arian yr Hac, ni fyddai Dewin.Dwr wedi gallu symud ymlaen ymhellach. Roeddent hefyd yn gallu sicrhau cyllid i cyflogi aelod newydd o staff!

Yn ogystal â’r cyllid Hac, derbyniodd Geraint gymorth busnes gan M-SParc trwy garfan gyntaf ein cyflymydd Lefel Nesaf i’w helpu i ddatblygu eu cynllun busnes ymhellach a chryfhau eu syniadau.

Dyfarnwyd yr arian i ddatblygu synhwyrydd diwifr a fyddai’n canfod, monitro a rhybuddio unrhyw reolwyr (yn yr achos hwn fel arfer ffermwyr) ynghylch y dystiolaeth neu’r potensial ar gyfer llygredd dŵr. Gall y dyfais gefnogi ffermwyr i wneud penderfyniadau gwell o ran pryd a faint o slyri a gwrtaith i’w ledanu ar eu tir

M-SParc, Academi Logo

Mae prosiectau fel hyn yn gofyn am arbenigedd a gwybodaeth ac yn cymryd amser, felly roedd ganddynt aelod o staff wedi’i ariannu’n llawn gan M-SParc drwy’r Academi Sgiliau. Mae Dafydd Pierce-Evans wedi graddio mewn Peirianneg Electronig ac wedi cefnogi gwaith y prosiect. Mae wedi cynhyrchu’r meddalwedd systemau mewnosodedig a fydd yn rhedeg calon y ddyfais!

O ganlyniad i’r gwaith a wnaed gyda Dewin.Dwr mae Dafydd wedi llwyddo i gael swydd llawn amser gyda chwmni lleol o’r enw Aperito lle mae’n cynorthwyo i ddatblygu dyfeisiau meddygol gwisgadwy sy’n cael eu harwain gan gleifion.

Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol fu mabwysiadu algorithmau ‘Machine Learning’ i lwyfan Cwmwl IoT Dewin.Dwr, o’r enw “Pethau”. Mae Dewin.Dwr yn defnyddio nodweddion ‘adrodd namau synhwyrydd’ a ‘rhybuddio trothwy gwerth’ sydd wedi’u cynnwys yn Pethau fel rhai safonol ar gyfer pob modiwl cwsmer. Mae’r dangosfwrdd yn dangos cyfres amser pob chwiliwr dros wahanol gyfnodau amser.

Mae dal data synhwyrydd yn arwain at yr hyn a elwir yn “Gyfres Amser” o ddata – Cyfres hir o gofnodion hanesyddol, ac mae dadansoddi’r rhain yn faes ymchwil arbenigol a chymhleth. Mae cyfres amser AI/ML yn wahanol i’r mwyafrif o gymwysiadau AI eraill sy’n seiliedig ar denor / fector. Datblygodd Dewin.Dwr gydrannau angenrheidiol yn y platfform i berfformio’r elfennau “Gwyddoniaeth Data” o waith AI/ML – sef gwaith archwiliol, hyfforddiant, dewis modelau a thiwnio hyper-paramedr – gan ddefnyddio data synhwyrydd byw yn uniongyrchol o’r system.

Gwych gweld ein tenantiaid yn gweithio gyda’i gilydd, yn creu swyddi ac yn arloesi er bydd y rhanbarth!

Am fwy o wybodaeth ebostiwch post@lafan.cymru neu edrychwch ar eu gwefan!

Olwen, llun proffil

Eisiau gwybod mwy am y gwaith mae ein tenantiaid yn ei wneud?