Mae’r cyhoeddiad yr wythnos hon, mai safle Wylfa ar Ynys Môn fydd y cyntaf yn y DU i groesawu tri o Adweithyddion Bach Modiwlaidd (SMRs) Rolls-Royce, yn newyddion gwych i’r ardal. Fel rhywun a fagwyd yng ngogledd Cymru, sydd wedi astudio gemeg niwclear yn y brifysgol ac oedd eisoes yn gweithio yn y sector pan dorrodd y newyddion am y prosiect blaenorol, dwi’n gyffrous iawn am y datblygiad hwn. Ond mae’n werth cofio – bydd hyn yn farathon, nid sbrint. Dim ond dechrau’r daith yw hyn, ac mae llawer o waith caled o’n blaenau.
Ond un peth sy’n amlwg yn barod: mae’r potensial i ogledd Cymru arwain ar arloesi carbon isel erioed wedi bod yn fwy.
Mae gan ogledd Cymru yr etifeddiaeth, y dalent a’r uchelgais i chwarae rhan allweddol yn y newid i ynni glân ar draws y DU. Mae gennym gymysgedd unigryw o dechnolegau ynni carbon isel — gan gynnwys llanw, gwynt ar y tir ac ar y môr, storfa pwmpio, solar, hydro, economi hydrogen sy’n tyfu, ac wrth gwrs, niwclear. Mae Wylfa’n cael ei chydnabod yn eang fel un o’r safleoedd gorau ar gyfer datblygu niwclear newydd, diolch i’w chysylltiad grid presennol, sefydlogrwydd daearegol, ecosystem fusnes gref, a chymuned sy’n deall y cyfleoedd a’r cyfrifoldebau sy’n dod gyda chynnal seilwaith ynni mawr.
Y ffocws i ni rwan ydi i sicrhau bod y rhanbarth yn barod i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i fod yn gartref i’r adweithyddion arloesol cyntaf o’u bath, ac i adeiladu ar yr ecosystem greadigol a chryf sydd eisoes yma.
Mae M-SParc, y ganolfan arloesi ar gyfer y rhanbarth, yn barod i gefnogi’r daith hon. O gefnogi cwmnïau cadwyn gyflenwi lleol i gysylltu busnesau bach â phartneriaid diwydiant mawr, o feithrin busnesau newydd i baratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus, mae ein cenhadaeth yn syml: gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd o gynnal y prosiectau seilwaith cenedlaethol arwyddocaol hyn.
Ar draws y rhanbarth, da ni eisoes yn gweld enghreifftiau cyffrous o gydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd, a llywodraeth leol. Da ni yn arwain ar glwstwr Arc Niwclear y Gogledd Orllewin, sy’n bodoli i gryfhau’r cysylltiadau hynny a helpu i sicrhau bod buddsoddiad yn trosi’n fudd rhanbarthol pendant: swyddi, sgiliau ac arloesedd, ar draws gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, ac yn gweithio’n agos gyda Fforwm Niwclear Cymru; clwstwr cadwyn gyflenwi niwclear blaenllaw Cymru.
Gallai datblygiad niwclear newydd fod yn gatalydd ar gyfer adfywiad economaidd hirdymor (a gobeithio, rywbryd yn y dyfodol, Nandos yn lleol hefyd!).
Rhaid inni sicrhau bod manteision unrhyw brosiect newydd yn cael eu teimlo ar draws y gymuned; drwy fanteisio ar gyfleoedd cadwyn gyflenwi, prentisiaethau, gyrfaoedd tymor hir ac opsiynau sy’n galluogi pobl i fyw, gweithio a ffynnu’n lleol.
Yn yr un modd, nid cynhyrchu ynni yn unig yw stori Wylfa. Mae’n ymwneud â gwydnwch, arloesedd, a balchder rhanbarth sy’n benderfynol o arwain cam nesaf yr economi carbon isel.
Yn M-SParc, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, busnesau a chymunedau i wneud y gorau o unrhyw fuddsoddiad, ac i sicrhau bod gogledd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi carbon isel.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.