Healthcare Matters yn cyflymu Sentrix drwy'r rhaglen Iechyd a MWy

Mae cefnogaeth drwy raglen Iechyd a Mwy M-SParc wedi helpu Healthcare Matters i gyflymu datblygiad Sentrix, datrysiad gofal rhithwir sydd bellach yn symud ymlaen i dreialon byw ledled Gogledd Cymru.

Mae Sentrix yn defnyddio synwyryddion disylw sy’n seiliedig ar radar a dangosfwrdd digidol diogel i helpu timau gofal i nodi risgiau’n gynharach, gwella ymatebolrwydd a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol am hirach.

Drwy Iechyd a Mwy, derbyniodd Healthcare Matters gefnogaeth wedi’i theilwra, adborth arbenigol a mynediad at rwydwaith arloesi ehangach, gan helpu’r tîm i fireinio’r cysyniad a chyflymu ei lwybr i’r farchnad.

Troi profiad rheng flaen yn arloesedd

Fel llawer o sefydliadau ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol, cydnabu Healthcare Matters bwysau cynyddol o amgylch capasiti’r gweithlu, galw cynyddol a’r angen i gefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol am hirach.

Gan dynnu ar fwy na dwy ddegawd o brofiad rheng flaen, dechreuodd y tîm archwilio sut y gallai technoleg helpu darparwyr gofal i nodi risgiau’n gynharach wrth gynnal dull sy’n canolbwyntio ar y person.

Y canlyniad oedd Sentrix – datrysiad monitro clyfar sy’n cyfuno synwyryddion disylw yn yr ystafell â dangosfwrdd digidol diogel, gan roi mwy o welededd i dimau gofal a’u helpu i flaenoriaethu cymorth lle mae ei angen fwyaf.

Yn wahanol i systemau monitro traddodiadol, mae Sentrix yn defnyddio technoleg radar yn hytrach na chamerâu na meicroffonau, sy’n golygu nad oes unrhyw ddata gweledol na sain yn cael ei gasglu. Yn lle hynny, mae’r system yn nodi patrymau symud ac yn rhybuddio timau gofal am bryderon posibl, fel cwympiadau neu weithgaredd anarferol.

Rôl Iechyd a Mwy

Ymunodd Healthcare Matters â rhaglen Iechyd a Mwy ar gam hollbwysig yn natblygiad Sentrix.

Wedi’i gyflwyno gan M-SParc mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Iechyd a Mwy yn helpu arloeswyr iechyd a gofal cymdeithasol i brofi, mireinio a pharatoi atebion i’w mabwysiadu.

Drwy’r rhaglen, cafodd tîm Healthcare Matters fynediad at adborth arbenigol, cysylltiadau â’r diwydiant a chyfleoedd i ddilysu’r cysyniad gyda rhanddeiliaid ar draws yr ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Adam Spiby, Rheolwr Gyfarwyddwr Healthcare Matters:

Mae’r rhaglen Iechyd a Mwy wedi bod yn amhrisiadwy ar gam allweddol yn ein taith, gan ddarparu anogaeth, mewnwelediad strategol a mynediad at ecosystem arloesi ehangach.
Rhoddodd yr ymgysylltiad, y pwyntiau cyswllt amserol a’r gefnogaeth barhaus yr hyder inni symud o gysyniad cychwynnol i sefydlu Sentrix fel menter gofal digidol bwrpasol.
Edrych ymlaen

Mae Sentrix bellach yn symud ymlaen i brofion byw, gyda phrosiectau peilot yn digwydd ledled Gogledd Cymru. Bydd y treialon hyn yn helpu i fireinio’r model gwasanaeth, dangos effaith mewn lleoliadau byd go iawn a llywio cam nesaf y broses gyflwyno fasnachol.

Mae’r prosiect eisoes wedi denu diddordeb gan awdurdodau lleol, darparwyr gofal a phartneriaid strategol, gyda’r uchelgais hirdymor o ehangu’r ateb ledled Cymru a thu hwnt.

I M-SParc, mae Sentrix yn cynrychioli’n union y math o arloesedd y cynlluniwyd y rhaglen Iechyd a Mwy i’w gefnogi: helpu sefydliadau i drawsnewid syniadau yn atebion ymarferol sy’n gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Am Iechyd a Mwy

Caiff Iechyd a Mwy ei ddarparu gan M-SParc mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae’n cefnogi arloeswyr sy’n datblygu atebion iechyd a gofal cymdeithasol newydd yng Ngogledd Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhaglen wedi darparu cefnogaeth wedi’i theilwra, canllawiau arbenigol a chysylltiadau â’r diwydiant i sefydliadau sy’n gweithio i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Darllenwch astudiaeth achos lawn Sentrix ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.