Sero Net

Sero Net 2030

Lansiwyd ein cynlluniau Sero Net 2030 am y tro cyntaf yn 2022 gyda nod uchelgeisiol i fod y parc gwyddoniaeth cyntaf yn y DU i gyrraedd sero net. Ers hynny, mae tîm Egni wedi bod yn gweithio i ddatblygu cynlluniau cadarn a chynhwysfawr ac i ddechrau eu gweithredu. Mae ein targedau Sero Net 2030 yn cael eu cymeradwyo gan y Fenter Targedau sy’n Seiliedig ar Wyddoniaeth (SBTi) – corff safoni o statws rhyngwladol – fel rhai sy’n bodloni gofynion Protocol Hinsawdd Paris 2015, a’n gosod ni fel arweinwyr yn y broses o newid i garbon isel.

Ein Sero Net Hamserlen

2030

Bydd M-SParc yn Sero Net!

Archebu Taran: ein cerbyd trydan cymunedol

Mae ein cerbyd trydan cymunedol, Taran, ar gael i’n holl denantiaid ei rentu. Os oes angen opsiwn trafnidiaeth cynaliadwy arnoch chi i deithio i gyfarfodydd, ymweliadau safle neu deithiau busnes, gallwch chi archebu Taran fan hyn (yr un broses ag archebu ystafell gyfarfod), gydag yswiriant drwy HiyaCar. Bydd angen i chi gofrestru i gael eich ychwanegu at y ‘ddolen gaeedig’, ceir cyfarwyddiadau cam wrth gam fan hyn.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.