Sgil Sparc yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athrawon STEM

Mae darpar athrawon ym Mhrifysgol Bangor yn cael profiad uniongyrchol o sut y gall diwydiant ysbrydoli dysgu yn yr ystafell ddosbarth, diolch i bartneriaeth gynyddol rhwng rhaglen Sgil Sparc M-SParc ac Ysgol Addysg Gogledd Cymru Prifysgol Bangor.

Drwy gydol tymor y gwanwyn, cymerodd myfyrwyr sy’n astudio Addysg Gychwynnol Athrawon ac Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ran mewn cyfres o sesiynau ymarferol, dan arweiniad diwydiant, a gyflwynwyd gan dîm Sgil Sparc. O weithgareddau STEM ymarferol a chyflwyno dwyieithog i drafodaethau ynghylch AI, gyrfaoedd yn y dyfodol ac amgylcheddau dysgu amgen, cynlluniwyd y sesiynau i bontio’r bwlch rhwng addysg a’r gweithle.

Drwy gysylltu athrawon dan hyfforddiant â diwydiant, mae Sgil Sparc yn helpu addysgwyr y dyfodol i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau ymarferol i ddod â phrofiadau STEM deniadol i ystafelloedd dosbarth ledled Gogledd Cymru.

Dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Un uchafbwynt i’r bartneriaeth oedd myfyrwyr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn cydweithio â thîm Sgil Sparc ar brosiect ymchwil yn archwilio ffyrdd newydd o gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ifanc ar draws y rhanbarth.

Rhoddodd y prosiect brofiad gwerthfawr i fyfyrwyr o weithio gyda sefydliad allanol wrth helpu i lunio datblygiad rhaglen allgymorth Sgil Sparc yn y dyfodol.

Cyflwynodd y cydweithrediad hefyd fyfyrwyr TAR a BA (SAC) i’r ecosystem addysg ehangach, gan ddangos sut mae sefydliadau fel M-SParc yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion, busnesau a chymunedau i gefnogi dysgu a chodi dyheadau.

Mae Sgil Sparc yn ymwneud â gwneud i STEM, sgiliau a gyrfaoedd deimlo’n real i bobl ifanc. Mae gweithio gyda myfyrwyr addysg yn caniatáu inni ddod â’r meddylfryd hwnnw’n uniongyrchol i addysg athrawon. Bydd y myfyrwyr hyn yn mynd ymlaen i ddylanwadu ar ddosbarthiadau ysgol, clybiau a mannau dysgu ar draws y rhanbarth, felly mae rhoi mynediad iddynt at ddiwydiant a llwybrau addysg amgen yn hynod werthfawr.

Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau M-SParc

Mae wedi bod yn bleser rhannu ein profiad gyda myfyrwyr sy’n paratoi at yrfaoedd ym myd addysg. Nid mewn ysgolion yn unig y mae addysgu’n digwydd; mae yna ecosystem addysg llawer ehangach ar draws gogledd Cymru. Trwy Sgil Sparc, rydym yn gweithio gydag ysgolion, busnesau a chymunedau, ac mae’r sesiynau hyn wedi bod yn gyfle i ddangos sut mae STEM yn gallu cael ei ddysgu mewn ffordd greadigol, ymarferol a pherthnasol.

Matt Evans, Swyddog STEM a Sgiliau, M-SParc

Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchu’r berthynas ehangach rhwng M-SParc a Phrifysgol Bangor, gan greu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â diwydiant, arloesi ac anghenion sgiliau rhanbarthol. Mae hefyd yn cryfhau swyddogaeth Sgil Sparc fel pont rhwng addysg a gweithlu’r dyfodol, gan gefnogi pobl ifanc ac addysgwyr i ddeall y cyfleoedd newydd sydd ar gael ledled gogledd Cymru.

Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant Cymru a’r Rhanbarth, Prifysgol Bangor

Gyda phrosiectau cydweithredol pellach eisoes yn cael eu harchwilio, bydd M-SParc a Phrifysgol Bangor yn parhau i gydweithio i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant, gan helpu i arfogi athrawon y dyfodol â’r sgiliau, yr hyder a’r profiadau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.