Sgil Sparc

Mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn bwysig, a dyna pam 'da ni wedi creu rhaglenni a gweithdai yn benodol i uwchsgilio pobl a phontio’r bwlch sgiliau.

Sgil Sparc

Bwriad y rhaglenni a gweithdai isod yw i pontio’r bwlch sgiliau, a uwchsgilio’r dyfodol. Mi ‘da ni’n medru cynnig y cyfan oll am ddim, wedi ei gyllido gan M-SParc; mae hyn yn golygu nad oes rhwystr i unrhyw un gymryd rhan.

Mae datblygiad llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn greiddiol i’r rhaglenni, yn ogystal â chyswllt i’r ardal leol er mwyn sicrhau bod y prosiectau mor berthnasol a chyfredol â phosib i’r plant a phobl ifanc. Mae pob un rhaglen yn cynnwys sgiliau adeiladol yn ymateb i elfennau ar draws y meysydd dysgu a phrofiad gan ystyried y 4 diben a’r hyn sydd yn bwysig, gan gynnwys:

• Gweithio mewn tîm, datrys problemau a trafod syniadau

• Blaen gynllunio

• Rhifedd

• Sgiliau dadansoddi

• Celf a chynllunio

• Celfyddydau Mynegiadol a sgiliau bywyd

• Datblygu sgiliau TG

Darperir y sesiynau yma gan cyn-athrawon, drwy’r iaith Gymraeg. Cynnig arbennig iawn, wedi creu oherwydd ein bod yn angerddol dros hybu arloesedd.

'Da ni'n cefnogi skills schools science technology entrepreneurship communities

Miwtini Bach oedd ein rhaglen gyntaf i gael ei sefydlu mewn ysgolion, ac mae wedi’i hoedi ar hyn o bryd wrth i ni ganolbwyntio ar ein gwaith arall.

Yn y rhaglen yma, y bwriad ydi rhoi cyfle i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn y Cynradd, neu blwyddyn 9+ yn yr Uwchradd i brofi a datblygu sgiliau entrepreneuriaeth mewn her mentergarwch!

Yn aml, mae’r rhaglen yma yn cefnogi a creu newid ym meddylfryd disgyblion sydd ddim yn meddwl am eu hunain fel bod yn academaidd. Mae rhan helaeth o gwmniau yng Ngogledd Cymru yn busnesau bychain, felly mae’n debygol iawn y bydd y disgyblion yma unnai’n gweithio i gwmni fach neu yn cychwyn busnes eu hunain. Bydd y sgiliau o’r rhaglen yma’n hanfodol i’w dyfodol.

Bydd y disgyblion yn datblygu busnes a chynnyrch eu hunain drwy roi STE(A)M mewn cyd-destun byd gwaith a thu hwnt i lawr y dosbarth. Bydda nhw’n creu syniad, datblygu busnes, adeiladu cynllun a costau, dylunio prototeip, a cyflwyno ei syniad. Mae’r rhaglen yn dod i derfyn gyda’r disgyblion yn ‘pitcho’ ei syniadau mewn arddull Den y Dreigiau.

Mae ein rhaglen STEM Egni yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc ddatblygu amrediad eang o sgiliau’n drawsgwricwlaidd sy’n ymateb i ofynion y Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn sesiynau ymarferol ac addysgiadol am newid hinsawdd a’u hardal leol, bydd y plant yn cael y cyfle i ail-ddylunio eu pentref i fod yn fwy eco-gyfeillgar a chynaliadwy. Byddant yn dysgu am wahanol ffynhonnellau egni gwyrdd lleol cyn gweithio fel tîm i drin cyllideb a datrys problemau bywyd go iawn a defnyddio CAD i greu mapiau 3D cyn cloi’r rhaglen drwy gyflwyno eu syniadau o flaen beirniaid.

Gyda cysylltiadau efo diwydiant lleol a’n llawn profiadau ymarferol, cyfredol a pherthnasol sy’n siŵr o ennyn diddordeb pob plentyn, mae ein rhaglen Egni yn gyfle gwych i gyfoethogi eich addysgu a gadael gwaddol ar arweinwyr ein dyfodol.

Eisiau cydweithio ar y rhaglen hwn a chynnig profiadau gwerthfawr ac unigryw i’ch dysgwyr? Peidiwch ag oedi, cysylltwch rŵan!

rhian@m-sparc.com

Mae’r rhaglen Creadigol Digidol yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod yn arbenigwyr digidol! Trwy gydol y sesiynau hyn, gall disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ddysgu popeth am y gwahanol gamau o gynhyrchu ffilm i greu eu rhaglenni dogfen eu hunain. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i weithio gyda chamerâu, offer sain, goleuo, a’r gallu i olygu’r ffilm gyda’i gilydd, gan ddefnyddio cerddoriaeth a foley. Yn ogystal, byddant yn dysgu sut i farchnata’r ffilmiau, gan eu paratoi i gael eu dangos i gynulleidfa ehangach.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y ffilmiau’n cael eu dangos mewn lleoliad leol ochr yn ochr ag ysgolion eraill fel rhan o seremoni wobrwyo, lle bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn bresennol i ddathlu’r gwneuthurwyr ffilm newydd am eu cyflawniadau wrth greu’r ffilmiau byr hyn.

Bellach gyda throsiant blynyddol o £1.4 biliwn, mae’r diwydiant ffilm a theledu yn tyfu’n gyflym yng Nghymru, ac mae angen i’r genhedlaeth nesaf baratoi gyda’r sgiliau i ddatblygu’r diwydiant hwn ymhellach. Allech chi fod yn un ohonyn nhw?

matt@m-sparc.com

Mae Clwb Sparci M-SParc yn glwb STEM Cymraeg unigryw sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous bob dydd Iau, i ysbrydoli plant 7-11 oed. O weithdai codio a dosbarthiadau roboteg i arbrofion gwyddoniaeth a sesiynau gwneuthurwr, rydym am i bob plentyn allu cael mynediad i STEM a’i fwynhau. Mae Clwb Sparci yn gymuned gynhwysol ac ysbrydoledig – byddwch yn rhan ohoni, ac ymunwch â’n sesiwn nesaf:

Clwb ar ôl ysgol M-SParc i bobl ifanc 12–16 oed yw Gofod, gan adeiladu ar sylfeini Clwb Sparci. Mae’n lle i archwilio sgiliau mwy datblygedig mewn STEM a’r celfyddydau, gyda phrosiectau ymarferol sy’n annog creadigrwydd, arloesedd a datrys problemau. O heriau dylunio digidol a chodio i beirianneg, cyfryngau a gweithgareddau gwneuthurwyr, mae Gofod yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer byd gwaith y dyfodol. Ymunwch â ni i ddysgu, arbrofi a chreu mewn cymuned gefnogol ac ysbrydoledig.

Digwyddiadau i ddod

Cwrdd â'r tîm

Mae gennym ni weithdai a chlybiau STEM ar gael i unrhyw un eu harchebu, felly cadwch lygad ar ein tudalen Digwyddiadau, neu edrychwch ar ein Clwb Sparcis isod.

Emily Jane Roberts

Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau

Rhian Richardson

Swyddog STEM a Sgiliau

Matt Evans

Uwch Swyddog STEM a Sgiliau

Nia Siân Jones

Swyddog STEM ac #ArYLôn
Ysgol 'di cymryd rhan
0
O raglenni Pwrpasol
0
Digwyddiadau y flwyddyn
0
Cynnydd mewn galluoedd STEM
0 %

Cylchlythyr Sgiliau a STEM and Skills Newsletter

* indicates required

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed ganddynt:

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgwch fwy am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Emily Roberts, llun proffil mewn ysfafell cyfarfod

Teimlo'n ysbrydoledig?

Dewch i gymryd rhan! Cysylltwch heddiw!

Emily Jane Roberts

Outreach & Community Manager

emily@m-sparc.com

Emily has worked for M-SParc since 2018.  Her previous role was at Bangor University, developing Welsh-language standardised tests for language disorders. Emily loves a graph, and would like them even better if they showed the closing of the skills gap in Wales, and a smaller gender pay gap in STEM.  She works to achieve this by supporting M-SParc’s Marketing & Events, Outreach and Community work, and STEM & Skills projects.

If you’d like to support this work, or just want to share some stats, get in touch.

Rhian Richardson

STEM & Skills Officer

rhian@m-sparc.com

Rhian is a STEM & Skills Officer with 13 years of experience in education and outreach communication. Currently, she delivers impactful STEM workshops at M-SParc and in schools to help young people discover their potential in science and tech. A mother of two, Rhian loves climbing and paddleboarding, finding adventure both in and out of the classroom.

Get in touch if you’d like to discuss STEM & Skills!

Matt Evans

Senior STEM & Skills Officer

matt@m-sparc.com

Matt orchestrates our Creadigol Digidol programme, Clwb Sparci and Gofod workshops as part of our STEM & Outreach team.

Nia Siân Jones

#OnTour & STEM Officer

nia@m-sparc.com

Nia is a talented artist and designer, with a BSc in Product Design and Technology from Bangor University. Nia is usually found #OnTour in Bangor or Pwllheli, running workshops, inspiring people to start their own business, and igniting ambition in local communities.

Emily Jane Roberts

Rheolwr Allgymorth a Chymuned

emily@m-sparc.com

Mae Emily wedi gweithio i M-SParc ers 2018. Ei rôl flaenorol oedd ym Mhrifysgol Bangor, yn datblygu profion safonedig Cymraeg ar gyfer anhwylderau iaith. Mae Emily wrth ei bodd â graff, er bysa nhw hyd yn oed yn well petaent yn dangos cau’r bwlch sgiliau yng Nghymru, a bwlch cyflog llai rhwng y rhywiau mewn STEM. Mae hi’n gweithio i gyflawni hyn trwy gefnogi prosiectau Marchnata a Digwyddiadau, Allgymorth a Chymunedol M-SParc, a phrosiectau STEM a Sgiliau.


Os hoffech chi gefnogi’r gwaith hwn, neu ddim ond eisiau rhannu rhai ystadegau, cysylltwch â ni.

Rhian Richardson

Swyddog STEM a Sgiliau

rhian@m-sparc.com

Mae Rhian yn Swyddog STEM a Sgiliau gyda 13 mlynedd o brofiad mewn addysg a chyfathrebu allgymorth. Ar hyn o bryd, mae hi’n cyflwyno gweithdai STEM effeithiol yn M-SParc ac mewn ysgolion i helpu pobl ifanc i ddarganfod eu potensial mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Yn fam i ddau o blant, mae Rhian wrth ei bodd yn dringo a padlo-fyrddio, gan ddod o hyd i antur yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Cysylltwch os hoffech drafod STEM a Sgiliau!

Matt Evans

Uwch Swyddog STEM a Sgiliau

matt@m-sparc.com

Matt sy’n trefnu ein rhaglen Creadigol Digidol, Clwb Sparci a gweithdai Gofod fel rhan o’n Tîm STEM ac Sgiliau.

Nia Siân Jones

Swyddog STEM ac #ArYLôn

nia@m-sparc.com

Mae Nia yn artist a dylunydd dawnus, gyda BSc mewn Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg o Brifysgol Bangor. Mae Nia fel arfer i’w ffendio #ArYLôn ym Mangor neu Bwllheli; yn cynnal gweithdai, yn ysbrydoli pobl i ddechrau busnes eu hunain, ac yn tanio uchelgais yn y gymuned.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.