Lansio Sefydliad Rheoli Clwstwr newydd i yrru arloesedd technoleg amaeth a thechnoleg bwyd ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru

Author picture

Mae M-SParc, Tyfu Canolbarth Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru ac ArloesiAber, yn falch o gyhoeddi lansiad swyddogol y Sefydliad Rheoli Clwstwr (SRhC) i ysgogi arloesedd technoleg amaeth a thechnoleg bwyd ledled Canolbarth a Gogledd Cymru.

Bydd y SRhC yn meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth-dechnoleg a Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru, a byddant yn cydlynu gweithgareddau ac yn hyrwyddo cyfleoedd ariannu sydd ar gael yn y clwstwr lleol drwy brosiect a fydd yn rhedeg i ddechrau am ddwy flynedd gan ddefnyddio cyllid gan Innovate UK.

Nod y SRhC yw cryfhau cydweithio rhwng busnesau, sefydliadau ymchwil, a phartneriaid rhanbarthol i hybu arloesedd a bod yn gystadleuol yn y sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaethyddol.

Bydd grŵp llywio strategol sy’n goruchwylio’r SRhC yn cael ei arwain gan Tyfu Canolbarth Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag ArloesiAber ac M-SParc. Gyda’i gilydd, byddant yn cefnogi busnesau drwy ddigwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd ariannu – cryfhau rhwydweithiau a chydweithio ar draws y rhanbarth.

Rhes Gefn Ch i Dd: Elliw Hughes, Uchelgais Gogledd Cymru, Arwyn Davies, Cyngor Sir Ceredigion, Carwyn Jones-Evans, Tyfu Canolbarth Cymru, Pryderi ap Rhisiart, M-SParc a Tom Burke, M-SParc Rhes Flaen Ch i Dd: Louise Jones, Innovate UK, Nicholas Shilton, Llywodraeth Cymru, Barbara Green, Tyfu Canolbarth Cymru, Becky Jeremy, Cyngor Sir Ceredigion

Mae’r clwstwr amaeth-dechnoleg rydyn ni’n ei reoli eisoes yn cymryd camau breision ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi arloeswyr disgleiriaf y rhanbarth

Pryderi ap Rhisiart, M-SParc

Mae’r lansiad hwn yn foment allweddol i ni, ac rydym yn gyffrous i gefnogi’r clwstwr bwyd-amaeth. Ein nod yw dod â busnesau a sefydliadau ymchwil ynghyd i arloesi mewn ffyrdd sy’n economaidd hyfyw ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

Rhian Hayward, ArloesiAber

Mae lansio’r Sefydliad Rheoli Clwstwr yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn ein galluogi i harneisio a gwneud y mwyaf o botensial enfawr y sectorau technoleg bwyd-amaeth ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y broses o sicrhau bod sefydliadau cymwys yn elwa o’r cyllid sydd ar gael.

Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru

Mae’r cyllid hwn yn garreg filltir bwysig i’r sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaeth yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr yn gyfrwng hanfodol ar gyfer dod â busnesau, partneriaid ymchwil a chyfleoedd ariannu ynghyd, gan sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi technolegol.

Carwyn Jones-Evans, Tyfu Canolbarth Cymru

I ddysgu mwy am gyfleoedd buddsoddi a sut i gymryd rhan, ymunwch a’r clwstwr Agritech.cymru, neu ewch i dudalen Clwstwr Bwyd-amaeth ArloesiAber.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.