Mae Porthladdoedd Rhydd yn caniatáu i nwyddau gael eu cludo i mewn gyda llai o fiwrocratiaeth, ac yna mae cynhyrchion newydd a wneir gyda’r nwyddau hynny yn cael eu hallforio heb gostau allforio trwm. Ochr yn ochr â phecyn cynhwysfawr o fuddion, bydd y safleoedd Freeport yn mwynhau cymhellion treth a thollau i hybu buddsoddiad, gan greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae ymchwil yn dangos y gallai Porthladd Rhydd Môn:
Bydd y Porthladd Rhydd yn cyflymu’r defnydd o gynhyrchu ynni cynaliadwy drwy adeiladu ar fentrau sero-net sy’n arwain y diwydiant ar hyn o bryd ar arfordir yr Ynys. Bydd hyn yn atgyfnerthu ‘Rhaglen Ynys Ynni’ bresennol y Cyngor Sir ac yn cynhyrchu cyflenwadau ynni y mae mawr eu hangen ar gyfer gweddill y DU. Bydd nodau sero net yn cael eu cyflawni drwy’r prosiect ynni llanw mwyaf â chaniatâd yn y byd.
Bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn ymestyn 45km o borthladd Caergybi, gan gwmpasu Ynys Môn gyfan, gyda phedwar parth wedi’u dynodi’n safleoedd treth neu dollau. Y safleoedd arfaethedig yw Porthladd Caergybi (gan gynnwys cyn safle 213 erw Alwminiwm Môn), Parc Cybi, Rhosgoch ac M-SParc.
Mae M-SParc yn croesawu’r cyhoeddiad, sy’n cefnogi ein huchelgais ar gyfer Ymchwil, Effaith ac Arloesi yn y rhanbarth.
Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio ar y manylion dros y misoedd nesaf er mwyn cefnogi sgiliau a chreu swyddi yn y rhanbarth. Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle i gefnogi ein nodau o gyrraedd Sero Net erbyn 2030.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, RhG M-SParc Dyma gyhoeddiad positif i’r rhanbarth a bydd y porthladd rhydd yn cefnogi ein gwaith i greu swyddi o safon a gwarchod ein cymunedau. Mae ymchwil a datblygu ac arloesedd yng nghalon y cais a dyma’n union y mae M-SParc a’n tenantiaid arloesol yn ei wneud. Rydym hefyd yn falch bod y gwaith o ddatblygu sgiliau yn rhan allweddol o’r cynllun.“ychwanegodd “ Edrychwn ymlaen rwan i ddatblygu’r manylion gyda’n partneriaid”
Dywedodd Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, “Rwyf wrth fy modd gyda’r penderfyniad heddiw, sy’n foment hanesyddol i Ynys Môn. Gall sicrhau statws Borthladd Rhydd gyflwyno newid gwirioneddol, trawsnewidiol i gymunedau yma ac ar draws Gogledd Cymru.”
“Bydd yn ysgogi creu swyddi hirdymor sylweddol i bobl leol yn ogystal â buddion economaidd-gymdeithasol ehangach a datblygiadau cadwyn gyflenwi. Bydd hyn yn helpu i gadw ein pobl ifanc yn eu cymunedau lleol, gan gadw cymeriad unigryw ein Ynys, ei diwylliant a’r iaith Gymraeg.”
I gael rhagor o wybodaeth am Borth Rhydd Ynys Môn, ewch ihttps://angleseyfreeport.co.uk/home-e/