Llwyddiant i M-SParc yng Ngwobrau STEM Cymru

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2025 mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Iau (16/10), ac roedd tîm Sgil Sparc M-SParc yn fuddugol am yr eildro.

Cafodd rhaglen Sgil Sparc M-SParc gydnabyddiaeth genedlaethol yng nghategori Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Preifat); yr un categori ag a enillodd y rhaglen yn 2023. Dyfarnwyd gwobr Dynas y Flwyddyn Mewn STEM i’r Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau, Emily Roberts, sy’n arwain y rhaglen, am ei gwaith yn hyrwyddo amrywiaeth mewn STEM a chefnogi rhaglenni Sgiliau M-SParc.

Bellach yn eu pumed flwyddyn, mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau rhagorol unigolion, prosiectau a sefydliadau sy’n arwain y ffordd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ledled Cymru.

Wedi’i chyflwyno gan y darllenydd newyddion o Gymru, Lucy Owen, rhoddodd araith agoriadol y gwobrau gydnabyddiaeth i’r gwaith STEM arloesol sy’n cael ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a’r prinder sgiliau, a chydnabu fod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn darparu heriau a chyfleoedd i’r rhai a oedd yn bresennol.

Tîm Sgil Sparc a wobrwywyd.

Roedd hi’n wych cyrraedd y rhestr fer! Mae hyn yn teimlo mor werth chweil ar ôl y blynyddoedd o waith caled dwi a’r tîm wedi’i wneud i ddatblygu’r rhaglen. Mae cael ein cydnabod am yr ail dro yn dystiolaeth wirioneddol o’n gwaith. Dwi mor falch mai pobl ifanc yng ngogledd Cymru fydd y gwir fuddiolwyr o hyn, a da ni’n hyderus y bydd effaith ein gwaith yn parhau i dyfu ar draws y rhanbarth.

Emily Roberts, Dynas y Flwyddyn

Bob blwyddyn, rydym yn cael ein syfrdanu gan safon ein cystadleuwyr terfynol a’n henillwyr. Maent yn gwthio ffiniau, yn creu newid, ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn yn eu hôl troed. Mae’n fraint dathlu’r rhai sy’n gyrru Cymru ymlaen fel canolfan arloesedd a thalent STEM.

Liz Brookes, Cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru

Wnaeth Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesi ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, prif noddwr y gwobrau, llongyfarch yr enillwyr:

Mae enillwyr 2025 yn enghraifft o’r creadigrwydd, y cydweithio a’r ymrwymiad sy’n diffinio sector STEM sy’n tyfu yng Nghymru. Ym Met Caerdydd, rydym yn falch o gefnogi digwyddiad sy’n taflu goleuni ar y bobl a’r sefydliadau sy’n llunio dyfodol gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein cenedl.

Mae rhaglenni Sgil Sparc M-SParc wedi cael eu datblygu drwy gydweithio’n agos ag ysgolion lleol, awdurdodau lleol a diwydiant, er mwyn sicrhau bod y rhaglen wedi’i theilwra ar gyfer gogledd Cymru. Dysgwch fwy am Sgil Sparc yma.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.