

NEWYDDION
Egni 2023 – Y Gynhadledd Net Sero yng Ngogledd Cymru!

Cymuned
Beth oedd yn braf oedd bod y gymuned a chriw o wirfoddolwyr y Pentref yn gymuned weithgar iawn. Pob un copa walltog yn tynnu gyda’i gilydd ac yn rhoi oriau o waith gwirfoddol i sicrhau llwyddiant y pentref a’r Eisteddfod. Wrth gwrs roedd y gwaith cynllunio wedi cychwyn flynyddoedd yn ôl, cyn i Covid fod yn air cyfarwydd, ond rhwng y criw gweithgar yma agwedd bositif oedd yr unig beth heintus. Llongyfarchiadau i’r pwyllgor gwaith a diolch am y cyfle o gael gweithio gyda chi. Yn arbennig o braf i mi oedd cael mynychu digwyddiad dathlu bach ar ddiwedd yr wythnos, lle cafwyd clamp o gacen a chyfle i adlewyrchu. Er bod M-SParc a’i wreiddiau yn y gogledd roedd hi’n amlwg bod perthnasau wedi cael ei creu yn yr Eisteddfod a fyddai’n blaguro i’r dyfodol. #CaruCardis
Tim
Yn ogystal a threfnu’r Pentref roedd M-SParc hefyd y cynnal cwt ar y maes ar hyd yr wythnos gan newid yr arlwy o ddydd i ddydd. Tipyn o her ond o ‘ni mor falch o weld cydweithio wrth wraidd sicrhau llwyddiant yr wythnos. O’r trefniadau cyn y digwyddiad, sefydlu’r gofod, i nol cinio i naill a’r llall, roedd o’n wych i’w weld. Roedd yr ymateb yn ffantastig hefyd gyda plant a theuluoedd yn ffurfio rhesi i ymweld a ni! DIOLCH i bawb ddoth i’n gweld. Ac os oedd y stondin yn ddistaw roedd cyfle i ddod i adnabod ein cymdogion ar y maes a mynd ati i greu cynnwys bywiog STEM Sydyn ‘Steddfod! Ond doedd dim modd i ddim o hyn ddigwydd heb gal tîm oedd yn ôl yn M-SParc yn rhedeg y sioe a cadw’r brif adeilad i weithredu fel yr arfer, diolch i chi gyd #TîmM-SParc
Llwyddiant
From launching a Welsh learning app for one of our tenants, to celebrating the formal partnership between M-SParc and the Eisteddfod , there was hard work to celebrate and it was nice to have a platform to do this . Mi gawson ni gyfle i siarad gyda bawb o S4C, i Radio Cymru, i Pawb a’i Farn – y cyfryngau Cymraeg yn dathlu arbenigedd ac arloesed Cymreig. Gwych i’w weld.
Ser
Ar hyd yr wythnos daeth cwmnïau ac unigolion gwahanol i roi cymorth i ni ar y stondin, cwmni Bleeper Services, Explorage, Haia ac Animated Technologies yn ogystal ac aelodau rhwydwaith Gogledd Creadigol; Cread Cyf, Galeri Caernarfon, Cwmni Fran Wen, Galactig, Prifysgol Bangor, Rondo Media a Pontio Bangor! Cefais gyfle i dreulio amser gyda Animated Technologies a’r tim a dwi’n gwybod iddyn nhw roi oriau mawr ac ymdrech arwrol i’r gwaith! Diolch i chi gyd!
Seren
Oedd un seren yn gludo’r cyfan oll, Tanya Jones, ein swyddog Sgiliau a Phrosiectau. Bu Tanya ar y safle am bythefnos ac yn rhoi oriau mawr i lwyddiant y Pentref am fisoedd yn arwain at yr Eisteddfod. Mi gollais cyfri ar faint ddoth ata fi yn ystod yr wythnos i ddiolch i M-SParc ac i Tanya am ei gwaith. Tipyn o ymdrech, tipyn o gamp a diolch i ti Tanya.
Llyn ac Eifionydd
Ymlaen rwan felly am Llyn ac Eifionydd! Tipyn o her dilyn Eisteddfod, lleoliad a chymuned mor arbennig ond dwi’n edrych ymlaen i weithio gyda’r Pwyllgor i roi sioe a hanner ymlaen. Welwn ni chi yno!