Taith gerdded yn edrych ar y gwahanol blanhigion sy’n tyfu yn yr ardal, sut maen nhw’n cael eu defnyddio, casglu’r rhai sy’n addas ar gyfer beth bynnag rydyn ni’n dewis ei gynhyrchu ac yna mynd i’w greu.
1. Cyflwyniad ar fflora ein bro a’r defnydd ohonynt.
2. Taith yn edrych ar bethau sy’n tyfu’n lleol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio … i fwyta, budd i’r corff, a phethau eraill.
3. Gweithdy ymarferol ar sut i greu cynnyrch er lles y corff.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.