Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Darperir y wybodaeth gan Barc Gwyddoniaeth Menai ac er ein bod yn ymdrechu i gadw’r wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau na gwarantau o unrhyw fath, yn benodol neu’n oblygedig, ynghylch cyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd nac argaeledd mewn perthynas â’r wefan neu’r wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, neu raffeg gysylltiedig a gynhwysir ar y wefan at unrhyw ddiben. Mae unrhyw ymddiried a roddwch ar y wybodaeth o’r fath ar eich menter eich hun.
Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, gan gynnwys heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r wefan hon.
Trwy’r wefan hon gallwch gysylltu â gwefannau eraill sydd ddim o dan reolaeth Parc Gwyddoniaeth Menai. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y gwefannau hynny. Nid yw’r cynnwys o unrhyw ddolenni o reidrwydd yn awgrymu argymhelliad nac yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir ynddynt.
Gwneir pob ymdrech i gadw’r wefan i fynu ac yn rhedeg yn estmwyth. Ond, ni fydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn gyfrifol, nac yn atebol, os na fydd y wefan ar gael am gyfnod oherwydd problemau technegol tu hwnt i’n rheolaeth.
Pan fyddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni ar y ffurflen cyswllt, byddwn ond yn ei ddefnyddio i ymateb i’ch e-bost yn unig, ac ni fyddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer rhestrau postio nac yn ei rannu â thrydydd parti.