Rydym yn falch o weithio gyda’n teulu M-SParc a rhanddeiliaid ehangach i gyflawni llawer o brosiectau hynod gyffrous ar draws ystod eang o sectorau, o garbon isel i amaethyddiaeth i seilwaith digidol a llawer mwy.
Rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd i ymuno â ni ar ein taith i wneud gogledd Cymru yn bwerdy arloesi a thwf, a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni ar unrhyw un o’r prosiectau isod, neu hyd yn oed dechrau prosiect newydd!
Mae Gogledd Orllewin Cymru yn fwrlwm o weithgareddau Carbon Isel, gydag M-SParc yn y canol, ac mae ein prosiect Egni yn rhan greiddiol o hynny! Rydym yn canolbwyntio ar helpu cwmnïau i dyfu, creu gyrfaoedd sy’n talu’n dda am genedlaethau i ddod, gan sicrhau bod yr economi leol yn amrywiol ac yn gallu ffynnu. Os ydych chi eisiau darganfod mwy am Egni, cliciwch isod.
Rydym yn falch o fod wedi creu’r clwstwr Amaeth-Dechnoleg, gan ddatblygu datrysiadau technoleg newydd arloesol a blaengar, er budd y sector amaeth. Rydym yn awyddus i ddatblygu’r clwstwr hwn ymhellach, gan ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i gwmnïau gydweithio ar grantiau, datblygu cynnyrch newydd, neu hyd yn oed dim ond i rannu syniadau a thrafod beth sy’n bosibl.
Rhaglen ‘accelerator’ pum mis ar gyfer busnesau newydd arloesol, twf uchel mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yng Ngogledd Cymru.
Gal sylfaenwyr gael mynediad at fentora arbenigol, cymuned o sylfaenwyr o’r un anian, eu bwrdd cynghori byd-eang eu hunain gyda rhwydweithiau pwerus a chyfleoedd unigryw ar gyfer tyfu.
Mae Academi Sgiliau M-SParc wedi’i sefydlu i bontio’r bwlch sgiliau yng ngogledd Cymru, yn enwedig ym meysydd digidol, gwyddoniaeth a thechnoleg a’r meysydd creadigol. Ar hyn o bryd mae dros 40 o aelodau academi yn gweithio mewn diwydiant ar draws gogledd Cymru.
Mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn bwysig i ni, ac rydym wedi partneru gyda rhai o addysgwyr gorau gogledd Cymru i lansio Clwb Sparci – cyfres o wersi addysgiadol rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc yn addysgu ystod o bynciau cyffrous ym meysydd Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg.
Yn fwy nag adeilad ysblennydd yn unig, mae M-SParc yn fudiad ac rydym yn mwynhau mynd â M-SParc ar daith ar draws gogledd Cymru. Darganfyddwch fwy am ein lleoliadau Ar Daith a’r hyn rydyn ni’n ei gynnig!
MySparc yw’r platfform a’r ap ar-lein cyntaf sy’n caniatáu ichi gael cysylltiad digidol â chymorth busnes, ar eich telerau, yn eich amser eich hun, mewn un lle.
Gall unrhyw un ddod yn rhan o rwydwaith Angel M-SParc (nid miliwnyddion yn unig!). Drwy ddod yn Angel fe gewch gyfle i gefnogi syniadau a menter newydd, gan greu swyddi a chyfoeth yng ngogledd Cymru.
Ymgyrch wedi’i thargedu at bobl sydd wedi gadael Cymru i ddychwelyd i: