Mae yna weithwyr ar draws y rhanbarth yn dymuno tyfu eu gweithlu gyda phobl fedrus, tra ar y llaw arall mae yna raddedigion, pobl sy’n cael eu tangyflogi neu sy’n dymuno newid gyrfa, sy’n chwilio am waith ond efallai’n ei chael hi’n anodd ennill profiad.
Nod yr Academi yw datrys hyn drwy ddarparu cyfleoedd gan gynnwys Gradd-brentisiaethau, a phrofiadau gwaith.
Mae’r Academi yn llawn ar hyn o bryd, ar ôl cwblhau’r derbyniad diweddaraf ym mis Rhagfyr 2021, ond rydym yn awyddus iawn i ychwanegu mwy o dalent i’r tîm yn y dyfodol.
Os ydych chi’n awyddus i gael cyfle i ddatblygu o fewn yr Academi Sgiliau a chael profiad hanfodol mewn amgylchedd gwaith bywiog, yna llenwch yffurflen hon a byddwn mewn cysylltiad pan fydd yr Academi yn recriwtio nesaf!
Bydd y lleoliadau gyda chwmnïau yn M-SParc a’r ecosystem gyfagos, ac yn caniatáu i aelodau’r Academi gael profiad gwaith gwerthfawr a datblygu eu sgiliau.
Efallai y byddant wedyn yn dod o hyd i waith gyda’r cwmni y maent wedi’u lleoli ag ef, neu mewn sefyllfa lawer gwell i ddod o hyd i waith yn dilyn eu cyfnod yn yr Academi.
Cliciwch ar y fideo i glywed gan ein dau aelod cyntaf o’r Academi, Kieran a Rhodri, i ddysgu am eu profiadau a sut mae’r Academi wedi eu helpu!