Rydym yn cynnig gyrfaoedd, drwom ni yn M-SParc a’n cwmnïau tenantiaid yn y sectorau Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd, TGCh a Gwyddor Bywyd. Yn aml, bydd cwmnïau’n chwilio am sgiliau gan gynnwys gweinyddu, marchnata, ymchwil marchnad, datblygwyr, rhaglenwyr a mwy. Mae gennym y cysylltiadau, gadewch inni helpu i’ch cysylltu â’r busnesau!
Dewch yn ôl
Beth sy’n eich atal rhag dychwelyd i Gymru i newid gyrfa, symud tŷ, neu ddechrau menter newydd? Dyma’ch cyfle i gymryd y naid – mae cyfleoedd a chefnogaeth yma i chi! Beth am ddychwelyd adref? #DewchYnÔl
Gwyddom fod diffyg arian i gefnogi mentrau bach a newydd yn y rhanbarth, diffyg sgiliau yn lleol mewn ardaloedd penodol, diffyg siaradwyr Cymraeg yn y sector yn y rhanbarth ac nad yw pobl sydd wedi symud o’r ardal yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael yma. Rydym yma i newid hyn!
Rhowch yn ôl
Os ydych eisiau Rhoi yn ol, rydym yn croesawu hyn hefyd! Mae gan M-SParc Rhwydwaith Angel, lle gallwch buddsoddi amser neu arian mewn i fusnesau lleol. I ddod yn aelod o’r rhwydwaith, cofrestrwch eich diddordeb drwy’r ddolen yma!
Chdi
Digon am ni – pwy wyt ti? Rhowch wybod i ni sut gallwn ni eich helpu chi, beth rydych chi’n edrych amdano, a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd.