Mae M-SParc yn ran allweddol o ffocws carbon isel Gogledd Cymru, gan gysylltu â datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ar ‘Ynys Ynni’ Ynys Môn. Ni yw’r wefr yng nghanol y bwrlwm hwn o weithgarwch, gan roi ein hunain a’n cwmnïau tenantiaid wrth galon datblygiadau newydd a chyffrous.
Mae cyfle i greu clwstwr o gwmnïau ynni carbon isel sy’n arwain y byd, a darparu cysylltiadau â chwmnïau o fewn y gadwyn gyflenwi.
Enillodd Debbie ei PhD mewn Cemeg Niwclear o Brifysgol Manceinion yn 2016 ac ar ôl hynny treuliodd 3 mis yn gweithio i Hitachi Research Labs yn Japan. Ers dychwelyd i Ogledd Cymru, mae Debbie wedi gweithio fel rheolwr prosiect i Brifysgol Bangor gan weithio ar ystod o brosiectau ar draws y Sector Carbon Isel.
Mae Debbie yn angerddol am Ynni Carbon Isel a sut y gall datblygiadau a chyfleoedd lleol yn y sector hwn helpu’r amgylchedd, y busnesau lleol a’r gymuned.
Mae gennym ni gysylltiadau academaidd ag arbenigedd storio hydrogen trwy’r ‘Labordy Ymchwil Deunyddiau Ynni mewn Niwclear’ yn Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor.
Mae gan M-SParc gysylltiadau â nifer o gyfleoedd Ymchwil ac Arloesi sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd pŵer solar.