
Yn cefnogi chi i droi syniadau arloesol yn well iechyd a gofal yng ngogledd Cymru a thu hwnt…
Mae Iechyd a Mwy yn cefnogi arloeswyr i ddatblygu syniadau sydd â’r potensial i drawsnewid gofal iechyd, y gwyddorau bywyd a gofal cymdeithasol ledled gogledd Cymru a thu hwnt.
P’run a ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn ymchwilydd, yn fusnes, yn entrepreneur, yn fyfyriwr neu’n bersonsydd hefo syniad, byddwn yn eich cysylltu â’r arbenigedd, y rhwydweithiau a’r cymorth sydd eu hangen i helpu i wireddu eich arloesedd.
Wedi’i hariannu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae M-SParc yn gyfrifol am arwain a chydlynu’r rhaglen yma mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Mae’r rhaglen yn galluogi i sefydliadau o bob rhan o’r rhanbarth ynghyd i gael cymorth ac arweiniad wedi ei deilwro i anghenion y cwmni, a hynny yma yng ngogledd Cymru. Drwy gydweithio, rydym yn helpu arloeswyr i gael y cyngor, yr arbenigedd a’r cysylltiadau cywir i ddatblygu syniadau a all wella iechyd a gofal.
Os ydych chi’n:
Fel rhan o’r rhaglen, byddwch yn elwa ar:
Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Tachwedd 2026 hyd at Mawrth 2027.
Mae adnabod llwybr arloesi, ei fabsywiadu a’i ddilyn yn gallu bod yn hynod heriol, yn enwedig yn y sector iechyd. Mae gwybod ble i ddechrau, gyda phwy i siarad neu sut i ddatblygu syniad yn aml yn atal syniadau da rhag symud ymlaen.
Pwrpas Iechyd a Mwy yw cael cwstwr o arloeswyr/sefydliadau ogledd Cymru ynghyd a chynnig cefnogaeth wedi ei deilwro i’w gofynion gan gysylltu aloeswyr gyda’r bobl, y wybodaeth, y cyngor a’r cyfleoedd cywir wrth iddynt ddatblygu eu syniad(au) fydd yn gwella iechyd a gofal cymdeithasol yn y pendraw.
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer carfan newydd o arloeswyr i ymuno â’r rhaglen.
Gwnewch gais erbyn 1 Tachwedd 2026 (23:59)
Oherwydd natur y rhaglen, mae llefydd yn gyfyngedig. Byddwn yn cefnogi 6-8 o arloeswyr rhwng Tachwedd 2026 a Mawrth 2027.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.