Agorodd Inyanga Marine Energy Group ei swyddfa yng Nghymru yn M-SParc yn gynharach eleni, i gefnogi datblygiad ei brosiect ynni llanw 20MW ym Morlais ar Ynys Môn, a gefnogir gan gynllun ‘Contracts for Difference’ llywodraeth y DU. Wedi’i redeg gan Menter Môn Morlais, mae’r prosiect ynni llanw yn yr unig un o’i fath yn y byd, gyda’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel glân.
Y tyrbinau T1 eiconig oedd y genhedlaeth gyntaf erioed o dyrbinau Tocardo, a ddefnyddir i bweru dyfais ynni llanw arloesol Inyanga, HydroWing. Mae Torcado, prif wneuthurwr tyrbinau Ewrop, wedi’i sefydlu ar y cyd gan Inyanga Marine Energy Group a QED Naval, ar hyn o bryd yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o dyrbinau T3, a fydd yn cael eu defnyddio ar brosiect Morlais HydroWing 20MW gan gyflenwi pŵer glân a rhagweladwy i’r grid lleol a dod â buddion economaidd i’r rhanbarth, gan greu swyddi newydd a rhoi hwb i’r gadwyn gyflenwi leol.
Richard Parkinson, Prif Swyddog Gweithredol yn Inyanga Marine Energy Group
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.