Yn bresennol ar ran M-SParc roedd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, a Steff Thomas, Swyddog Gweithrediadau ac Arloesi, sy’n arwain gweithgareddau arloesi pêl-droed M-SParc, gan gynnwys rhaglen Canolfan Arloesi CBDC, cefnogaeth i fusnesau sy’n canolbwyntio ar bêl-droed a chyflwyno ein rhaglen hacathon pêl-droed.
Daeth y digwyddiad ag ystod drawiadol o sefydliadau o bob cwr o Ewrop a thu hwnt ynghyd, gan gynnwys UEFA, EA Sports, clybiau pêl-droed uchaf, stadia a chynghreiriau mawr Ewropeaidd a ffederasiynau pêl-droed.
Mae pwrpas Champions Innovate yn syml ond yn uchelgeisiol: dod â’r meddyliau mwyaf disglair o bêl-droed, technoleg, busnes ac academia ynghyd i ddatblygu atebion i’r heriau sy’n wynebu’r gêm a chreu cyfleoedd i ehangu arloesiadau llwyddiannus ledled Ewrop.
I Gymru, atgyfnerthodd y digwyddiad y gred gynyddol bod gennym gyfle gwirioneddol i ddod yn arweinydd ym maes arloesi pêl-droed.
Drwy gydol y digwyddiad, archwiliodd y cynrychiolwyr sut y gall arloesi wella cyfranogiad, lles, ymgysylltiad cefnogwyr, diogelu, hyfforddi, cynhwysiant a phrofiadau pêl-droed ar lawr gwlad.
Yr hyn a safodd allan oedd parodrwydd sefydliadau pêl-droed mawr i gydweithio ac i rannu eu profiadau. Yn hytrach na gweld arloesedd fel rhywbeth sy’n digwydd y tu mewn i sefydliadau mawr, mae llawer o’r mentrau mwyaf cyffrous yn cael eu datblygu trwy bartneriaethau rhwng cyrff llywodraethu, clybiau, prifysgolion a busnesau sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r dull cydweithredol hwn yn cyd-fynd yn gryf â’r gwaith sydd eisoes yn digwydd o fewn ecosystem pêl-droed Cymru.











Mae rôl M-SParc fel Canolfan Arloesi FAW yn canolbwyntio ar nodi, datblygu a chefnogi busnesau a syniadau arloesol a all gael effaith gadarnhaol ar bêl-droed a chymdeithas ehangach.
Mae hyn yn cynnwys mentrau fel y rhaglen hacathon pêl-droed sydd eisoes wedi cynhyrchu syniadau cyffrous a thalent entrepreneuraidd, ochr yn ochr â chefnogaeth i fusnesau sy’n gweithredu yn y sector.
Da ni’n hynod falch o fod yn cefnogi ac yn hyrwyddo arloesedd Cymru ar y llwyfan hwn. O enillwyr hacathon Prifysgol Bangor (‘Chwarae Teg’) i fusnesau fel Brandified, Pelly a YEM sy’n gweithio ym maes lles ac ymgysylltu, mae creadigrwydd ac uchelgais gwirioneddol yn dod allan o Gymru gyda chyfleoedd i gydweithio â ffrindiau a phartneriaid ledled Ewrop.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i arddangos cryfder arloesedd Cymru a meithrin perthnasoedd â sefydliadau ledled Ewrop a allai greu cyfleoedd yn y dyfodol i fusnesau Cymru.
Aethom â’r tri phwynt adref (sori!):
Nid yw’r heriau sy’n cael eu trafod ledled Ewrop yn unigryw i wledydd pêl-droed mawr. Mae gan Gymru allu ymchwil cryf, talent entrepreneuraidd a diwylliant cydweithredol sy’n galluogi arloesedd i ddigwydd yn gyflym ac yn effeithiol.
Mae ansawdd y syniadau sy’n dod i’r amlwg o gwmnïau newydd, prifysgolion ac arloeswyr Cymru yr un mor gryf â’r rhai a welir mewn mannau eraill yn Ewrop.
Yr ecosystemau arloesi mwyaf llwyddiannus yw’r rhai lle mae cyrff llywodraethu, prifysgolion, busnesau ac entrepreneuriaid yn cydweithio.
Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw yn hyn o beth. Mae’r berthnasoedd agos rhwng sefydliadau fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, prifysgolion, canolfannau arloesi a busnesau yn creu amgylchedd lle gellir profi, mireinio a graddio syniadau’n gyflym.
Efallai mai’r neges gryfaf o Budapest oedd bod arloesi pêl-droed yn dal i fod yn faes sy’n dod i’r amlwg.
Mae hynny’n cyflwyno cyfle sylweddol.
Yn hytrach na cheisio dal i fyny ag eraill, mae gan Gymru’r cyfle i sefydlu ei hun fel un o ecosystemau arloesi pêl-droed blaenllaw Ewrop. Drwy barhau i gefnogi entrepreneuriaid, cysylltu arloeswyr â’r gêm a chreu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, gallwn osod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi pêl-droed.
Bydd y cysylltiadau a wneir yn Budapest yn helpu i gryfhau perthnasoedd rhwng arloeswyr Cymru a phartneriaid rhyngwladol, gan agor cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio, prosiectau peilot a thwf busnes.
Fel Canolfan Arloesi CBDC, da ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi arloeswyr, entrepreneuriaid a sefydliadau sy’n defnyddio technoleg, creadigrwydd a syniadau newydd i lunio dyfodol pêl-droed.
Mae’r cyfle’n glir. Mae gan Gymru’r dalent, yr uchelgais a’r ysbryd cydweithredol i ddod yn arweinydd ym maes arloesi pêl-droed.
Yr her rwan ydi i wneud iddo ddigwydd.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.