Roedd yr adeilad yn llawn ynni, gyda golygfeydd rhagorol o’r ddinas, gan gynnwys Fferm Wynt ar y Môr Burbo Bank yn y pellter. Roedd yn ofod gwych i gysylltu busnesau, datblygwyr prosiectau, partneriaid rhanbarthol, porthladdoedd ac arweinwyr diwydiant o bob rhan o’r sector gwynt ac ynni ar y Môr.
Mae’r OEA yn glwstwr cadwyn gyflenwi ar gyfer y sector ynni ar y môr yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr gyda M-SParc yn ysgrifenyddiaeth, yng nghanol y sector deinamig hwn, mae’r OEA yn helpu i gefnogi twf y gadwyn gyflenwi ac yn hyrwyddo’r cyfleoedd niferus sy’n dod yn sgil ei datblygiad. Gyda’r Adeilad Egni newydd sbon yn M-SParc yn cael ei adeiladu, mae hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd, datblygu partneriaethau a chreu safeoeddsafleoedd ar gyfer cydweithio ar draws y rhanbarth o fewn y sector datblygiadol carbon isel.
Rhoddodd Uwchgynhadledd Cadwyn Gyflenwi OEA fewnwelediad gwerthfawr i’r cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ar draws y rhanbarth. Clywsom yn uniongyrchol gan y rhai sy’n cyflawni prosiectau ynni ar y môr ar hyn o bryd ac, yn bwysicaf oll, cafwyd cyfle i gysylltu timau ac unigolion er mwyn helpu i gryfhau’r gadwyn gyflenwi.
Dechreuodd y diwrnod gyda thrafodaeth banel difyr gyda Chyd-gadeiryddion yr OEA, Helen K Thomas (RWE) ac Ifer Gwyn (JERA Nex bp), ynghyd â phartneriaid rhanbarthol a’r Hyrwyddwr Pwnc ar gyfer Twf yn y Gadwyn Gyflenwi, Hutchinson. Cafwyd mewnwelediadau gwerthfawr o Ynys Môn i Cumbria, gan roi cyfle i glywed am y gwahanol safbwyntiau ar draws y rhanbarth. Roedd yn gyfle gwych i drafod sut y gall cydweithio ar draws rhanbarth Môr Iwerddon alluogi busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yn sgil twf y sector ynni ar y môr. Un o brif negeseuon y sesiwn oedd pwysigrwydd cydweithio. Fel clwstwr, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau bod y prosiectau hyn yn creu buddion i bawb sy’n rhan ohonynt.
Dilynwyd y panel gan ddiweddariadau diddorol gan rai o’r prosiectau mawr sy’n cael eu datblygu ledled y rhanbarth, gan gynnwys Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr RWE, prosiectau gwynt ar y tir, Fferm Wynt ar y Môr Mooir Vannin Ørsted, Fferm Wynt ar y Môr Mona JERA Nex bp, a Pharth Arddangos Llif Llanw Morlais. I fusnesau sy’n dymuno ymgysylltu â’r sector, rhoddodd y diweddariadau hyn ddarlun gwerthfawr o’r hyn sydd ar y gweill ledled y rhanbarth. Tynnodd y trafodaethau sylw at bwysigrwydd i fusnesau ddeall amserlenni’r prosiectau a meithrin cysylltiadau’n gynnar, er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y prosiectau.
Ar y cyfan, roedd y brif neges unwaith eto yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cydweithio a deall sut y gall busnesau chwarae rhan ddatblygiadol bwysig yn y sector.
Roedd y trafodaethau rhyngweithiol yn rhan allweddol o’r uwchgynhadledd, gan roi cyfle i’r mynychwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau agored ac ymarferol. Ar draws dwy rownd o sesiynau, gallai’r mynychwyr archwilio pynciau’n ymwneud â gwynt ar y môr ac ar y tir, cyllid a chymorth i fusnesau, neu Barth Arddangos Llif Llanw Morlais. Roedd y sesiynau’n gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod ystod eang o bynciau, gan gynnwys cadwyni cyflenwi a chaffael, rhwystrau a chyfleoedd drwy gydol cylch bywyd prosiectau, arloesi ac ymchwil a datblygu, porthladdoedd a seilwaith, rhaglenni ariannu, sgiliau, caniatâd ac arolygon.
Parhaodd y prynhawn gyda chyfle i gwrdd â Hyrwyddwyr Pwnc yr OEA a chlywed diweddariad gan y diwydiant, gan gynnwys lansiad Clwstwr OEA – Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Gallwch wylio fideo RenewableUK yma.
Dilynwyd y sesiwn gan banel o gyflenwyr blaenllaw, gyda chynrychiolwyr o Hitachi, Smulders, Severfield, Port of Nigg a Phorthladdoedd Prydeinig Cysylltiedig. Rhoddodd y siaradwyr fewnwelediadau gwerthfawr i gyfeiriad y diwydiant yn uniongyrchol gan gontractwyr Haen 1 a Haen 2. Roeddent yn barod i ymgysylltu â’r gynulleidfa, ateb cwestiynau a rhannu cyngor ymarferol gyda busnesau sy’n awyddus i archwilio’r cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi ynni ar y môr.
Molly Jackson, Swyddog Carbon Isel, M-SParc
Bydd Uwchgynhadledd Cadwyn Gyflenwi OEA yn dechrau rhaglen ehangach o weithgarwch dros y misoedd nesaf. Bydd yr OEA yn parhau i greu cyfleoedd ysbrydoledig i’r gadwyn gyflenwi gysylltu, cydweithio ac ymgysylltu â’r prosiectau a’r sefydliadau sy’n llunio dyfodol ynni ar y môr yn y rhanbarth.
Bydd hyn yn cynnwys rhaglen helaeth o weminarau, gan ddarparu cyfleoedd i archwilio pynciau allweddol yn fwy manwl, yn ogystal â digwyddiad cyffrous arall sydd wedi’i gynllunio ar gyfer dechrau’r gwanwyn.
Roedd yr uwchgynhadledd yn garreg filltir bwysig i’r OEA, gan ddod â busnesau, datblygwyr prosiectau, partneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i rannu gwybodaeth, meithrin cysylltiadau ac archwilio cyfleoedd newydd. Gyda rhagor o ddigwyddiadau, gweminarau a gweithgarwch partneriaeth ar y gweill, bydd yr OEA yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth gysylltu busnesau’r rhanbarth â’r cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector ynni ar y môr.
I gael gwybod am ddigwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd OEA yn y dyfodol ac i gymryd rhan, cofrestrwch fel aelod OEA trwy’r porth cofrestru OEA heddiw.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.