Mae M-SParc yn rhan allweddol o ffocws carbon isel Gogledd Cymru, gan gysylltu â datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ar ‘Ynys Ynni’ Ynys Môn. Ni yw’r wefr yng nghanol y bwrlwm hwn o weithgarwch, gan roi ein hunain a’n cwmnïau tenantiaid wrth galon datblygiadau newydd a chyffrous.
Mae cyfle i greu clwstwr o gwmnïau ynni carbon isel sy’n arwain y byd, a darparu cysylltiadau â chwmnïau o fewn y gadwyn gyflenwi. Mae’r Sefydliad Ymchwil Niwclear a gyhoeddwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor yn dod â chapasiti o’r radd flaenaf mewn peirianneg niwclear i’r rhanbarth am y tro cyntaf erioed.
Mae Ynys Môn wedi’i lleoli mewn Ardal Haen 1 a ddynodwyd gan yr UE ac felly mae’n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymorth grant sydd ar gael. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu cyfres o raglenni SMART i gefnogi mentrau arloesol sydd â photensial i dyfu. Gall cwmnïau eraill ddenu cymorth drwy Busnes Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am gyfraddau cymhwysedd ac ymyrraeth fesul prosiect ar gael yma.
Bydd staff M-SParc yn cynorthwyo cwmnïau a phrosiectau cymwys i nodi cymorth posibl sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a hefyd gan Innovate UK, Cynghorau Ymchwil, Sefydliadau Ymchwil a Chronfeydd Ymchwil Ewropeaidd ar hyn o bryd gan gynnwys Horizon 2020.
Mae M-SParc yn safle dynodedig ar Ardal Fenter Ynys Môn, a fydd yn denu cefnogaeth ychwanegol i gwmnïau a phrosiectau sy’n lleoli yno.
Buddsoddiad: Bydd staff M-SParc yn helpu gyda chyflwyniadau gyda buddsoddwyr preifat, rhwydweithiau Angylion Busnes, Cyllid Cymru a Banciau Masnachol i ddarparu cyllid buddsoddi i gwmnïau sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd.
I droi’r syniad hwnnw yn fenter lwyddiannus mae angen rhywbeth ychwanegol. Rhywbeth sy’n helpu’r sbardun cychwynnol hwnnw i oleuo’r ffordd i ddyfodol gwell.
Mae gan Gymru lawer i weiddi amdano ac mae gan M-SParc yr amodau perffaith i ysbrydoli a gwella cenhedlaeth newydd o wyddonwyr i ychwanegu at draddodiad gwyddonol gwych ein cenedl.
BYW Mae Gogledd Cymru yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith. . Mae’r ffordd o fyw yma yn heintus ac yn braf. Mae digonedd o bethau i’ch denu o’r swyddfa, o gopaon mynyddoedd Eryri a milltiroedd o arfordir digyffwrdd Ynys Môn, i dreftadaeth o safon fyd-eang a bwyd môr y mae pobl yn ei fwynhau ym mhedwar ban byd.
GWEITHIO Fodd bynnag, mae M-SParc yn benderfynol o greu amgylchedd gwaith a fydd yn lle pleserus i dyfu’ch busnes yn ogystal â dod â’r awyr agored i mewn drwy adeiladau wedi’u dylunio’n wych a gofodau agored sy’n ysbrydoli. Anghofiwch am y cymudo hir a’r straen o fyw mewn dinas fawr, beth am gyfnewid hynny am ansawdd bywyd gwell heb orfod cyfaddawdu.
BUDDSODDI Ar hyn o bryd, mae Cymru ar flaen y gad ym maes ymchwil a datblygu ynni yn y DU. Gyda chysylltiadau â gweithgareddau ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Bangor, ac ystod o Busnesau Bach a Chanolig yn y sector ynni a’r amgylchedd yn dod â syniadau arloesol i’r amlwg, mae Gogledd Cymru yn lle doeth i fuddsoddi ynddo. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Prifysgol Bangor neu darllenwch ymlaen am rhagor o wybodaeth am Ynys Ynni. Hefyd, gallwch gysylltu â ni.
Mae nifer o randdeiliaid wedi dod at ei gilydd o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus ar gyfer Rhaglen Ynys Ynni Môn™. Maent yn gweithio mewn partneriaeth i roi Ynys Môn ar flaen y gad o safbwynt ymchwilio i ynni a’i ddatblygu, ei gynhyrchu a’r gwasanaethau cysylltiedig, a gall hynny yn ei dro arwain at fanteision economaidd anferthol. Bydd y rhaglen yn fodd o fanteisio ar gyfleoedd mewn perthynas â thwf a datblygiad cyflogaeth Mae harneisio cyfoeth o ffrydiau ynni gan gynnwys niwclear, gwynt, llanw, biomas a haul ynghyd â’r prosiectau gwasanaethu cysylltiedig yn gyfle gwych i sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer Ynys Môn a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru.
A ninnau yn Brifysgol flaenllaw sydd ag enw da yn rhyngwladol am ein dysgu a’n hymchwil yn ogystal ag ymrwymiad cryf i les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, mae Prifysgol Bangor yn falch o fod wrth galon Parc Gwyddoniaeth Menai.
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch chi.