WSP yn dod i M-SParc wrth i waith Wylfa gyflymu

Mae'r cwmni ymgynghori peirianneg byd-eang WSP wedi sefydlu presenoldeb newydd yn M-SParc yng Ngaerwen, gan gryfhau ei weithrediad yng Ngogledd Cymru wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar raglen Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) Gwyndod yn Wylfa.

Mae WSP, un o gwmnïau ymgynghori peirianneg mwyaf y byd, yn symud i M-SParc wrth iddynt ehangu eu gwaith ar draws y rhanbarth. Bydd y cwmni’n darparu gwasanaethau amgylcheddol a thrwyddedu sy’n gysylltiedig â Gwyndod, tra hefyd yn cefnogi portffolio cynyddol o gleientiaid mawr ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys NMWTRE, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Mae WSP yn cyflogi mwy na 500 o bobl ar draws Caerdydd, Wrecsam a Gaerwen.

Debbie, Mark ac Olwen
Mae’n wych cael WSP yn ymuno ag ecosystem M-SParc. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r sector carbon isel. Rydym wedi gweithio gyda WSP ar brosiectau blaenorol, ac yn edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau yn y dyfodol.

Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel, M-SParc

Mae WSP yn symud wrth i weithgarwch o amgylch prosiect Gwyndod yn Wylfa barhau i ddatblygu.

Mae WSP a Mott MacDonald wedi cael eu penodi gan Great British Energy – Nuclear (GBE-N) i ddarparu gwasanaethau amgylcheddol arbenigol, cydymffurfiaeth reoleiddiol a chefnogaeth trwyddedu ar gyfer y rhaglen Adweithydd Modiwlaidd Bach yn Wylfa.

Bydd prosiect Gwyndod yn gweld tri Adweithydd Modiwlaidd Bach Rolls-Royce yn cael eu datblygu ar safle Wylfa, gyda’r potensial ar gyfer hyd at 11 i gyd yn y dyfodol. Disgwylir i’r prosiect greu cyflogaeth gwerth uchel a chyfleoedd sylweddol i fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi ranbarthol.

Wrth i WSP ddechrau ar ein hwythfed degawd o gael ein sefydlu yng Nghymru, bydd yr ehangu yma yn ein gweld yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth bellach a chefnogaeth ehangach i’n cymuned cleientiaid. Fy mhrofiad o M-SParc yw eu bod yn meithrin cydweithio gwirioneddol, ac yn gyrru arloesedd yn y dyfodol mewn sgiliau a chefnogaeth ac allgymorth cymunedol.

Mark Valentine, Cyfarwyddwr Twf Strategol, WSP

Mae M-SParc yn cefnogi’r ecosystem carbon isel sy’n tyfu ledled Gogledd Cymru trwy ddarparu lle i sefydliadau sy’n gweithio yn y sector, datblygu rhaglenni ymgysylltu cadwyn gyflenwi a dod â busnesau a phartneriaid eraill ynghyd trwy ei glystyrau arbenigol.

Mae’r rhain yn cynnwys y Gynghrair Ynni Alltraeth (OEA) ac Arc Niwclear y Gogledd Orllewin (NWNA), sy’n dod â sefydliadau ynghyd ynghylch cyfleoedd yn y sectorau ynni a niwclear.

Mae M-SParc hefyd yn cyflwyno Egni a Pheirianneg, rhan o’i raglen Sgil Sparc, mewn ysgolion ledled Gogledd Cymru. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â’r cwricwlwm wrth dynnu sylw at yr ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous sydd ar gael mewn ynni carbon isel a pheirianneg.

Mae dyfodiad WSP yn ychwanegu sefydliad mawr arall at y rhwydwaith cynyddol o fusnesau a phartneriaid sy’n gweithio o M-SParc, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng diwydiant, arloesedd, sgiliau a’r gymuned ehangach.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.