Penodi Wynne Construction yn Gontractwr ar gyfer Adeilad Egni

'Dan ni'n falch i gyhoeddi bod Wynne Construction wedi cael eu penodi i ddylunio ac adeiladu ail adeilad ar ein safle ar Ynys Môn. Mae cynnydd ar yr adeilad newydd, gyda'r gwaith adeiladu wedi'i gynllunio i ddechrau'n gynnar yn 2026, yn newyddion cadarnhaol pellach yn dilyn cyhoeddiadau diweddar ar raglenni rhanbarthol mawr fel Porthladd Rhydd Ynys Môn, Wylfa a’r Ardal Twf AI.

Gyda phrif adeilad M-SParc bellach ar ei lawn gapasiti, bydd yr adeilad newydd yn cynnwys swyddfeydd, gweithdai a labordai, yn ogystal â mannau hyfforddi, ymgysylltu a digwyddiadau; gan alluogi’r safle i dyfu tra’n parhau i fanteisio ar ragoriaeth ymchwil Prifysgol Bangor ar y safle.

Ch-Dd: Dr Debbie Jones a Pryderi ap Rhisiart (M-SParc), Gary Pritchard (Cyngor Môn), Natasha Pryce (Wynne Construction), Prof Edmund Burke (Prifysgol Bangor), Christian Branch (Cyngor Môn) , Meghan Davies (Uchelgais Gogledd Cymru), Simon Moreton (Wynne Construction)
Sefydlwyd Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, M-SParc, fel ysgogwr ar gyfer twf economaidd ac arloesedd hirdymor yng Ngogledd Cymru, gan adeiladu ar gryfderau ymchwil y Brifysgol a chyfleoedd rhanbarthol. O’r cychwyn cyntaf, ein nod oedd ehangu’r safle er mwyn cynyddu ein cefnogaeth i arloesedd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Gyda’r cyhoeddiadau diweddar ynghylch buddsoddiadau rhanbarthol mawr, nid yw’r angen i dyfu ein cyfleusterau a’n galluoedd erioed wedi bod yn gliriach. Bydd yr ehangu hwn yn ein galluogi i ddatblygu ymhellach ein hymgysylltiad agos â chwmnïau lleol, gan sicrhau bod arloesedd yn dod â budd i’r gymuned ehangach ac yn cefnogi twf rhanbarthol cynaliadwy.

Yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor

Mae Uchelgais Gogledd Cymru am ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer y datblygiad drwy ei Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth yr achos busnes terfynol. Wedi’i hariannu gan Lywodraethau Cymru a’r DU, mae’r Cynllun Twf yn buddsoddi mewn prosiectau ar draws y rhanbarth i alluogi twf economaidd cynaliadwy.

Mae Egni yn brosiect arwyddocaol o fewn rhaglen Ynni Carbon Isel ein Cynllun Twf, sy’n ceisio gosod y rhanbarth fel lleoliad blaenllaw ar gyfer ynni gwyrdd. Rydym yn falch iawn o weld Wynne Construction, gyda’i enw da rhagorol a’i ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd, yn cael ei benodi, ac edrychwn ymlaen at ystyried yr achos busnes terfynol yn y dyfodol agos.

Meghan Davies, Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net, Uchelgais Gogledd Cymru

Ch-Dd: Dr Debbie Jones (M-SParc), Gary Pritchard (Cyngor Môn), Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor), Emily Roberts (M-SParc), Meghan Davies (Uchelgais Gogledd Cymru), Christian Branch (Cyngor Môn), Natasha Pryce a Simon Moreton (Wynne Construction), Pryderi ap Rhisiart (M-SParc)

Yn dilyn sefydlu tîm ‘Egni Carbon Isel’ yn 2021, sydd wedi ehangu gweithgarwch yn y sector yn sylweddol, mae M-SParc a Phrifysgol Bangor bellach yn cydweithio’n agos â Wynne Construction i gyflawni’r adeilad newydd. Bydd y cydweithrediad hwn yn cryfhau ecosystem carbon isel y rhanbarth ac yn cefnogi cynnydd parhaus tuag at Sero Net.

Mae’r prosiect mawreddog hwn yn nodi ein partneriaeth gyntaf â Phrifysgol Bangor ac yn cynrychioli ychwanegiad sylweddol at ein portffolio cynyddol o brosiectau prifysgol ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda thîm Prifysgol Bangor a M-SParc i ddarparu cyfleuster cynaliadwy o safon uchel sy’n adlewyrchu dyheadau’r Brifysgol a’r gymuned wyddoniaeth a thechnoleg ehangach. Fel gyda phob un o’n prosiectau, bydd gwerth cymdeithasol wrth galon ein dull gweithredu.
Byddwn yn buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi leol yng Ngogledd Cymru, gan greu cyfleoedd i fusnesau lleol a chyflogaeth, a meithrin ymgysylltiad cymunedol drwy gydol y prosiect.

Simon Moreton, Cyfarwyddwr Masnachol, Wynne Construction

Ers ei agor yn 2018, mae M-SParc wedi llwyddo i greu dros 150 o swyddi newydd gwerth uchel ac wedi hwyluso mwy na 150 o interniaethau a lleoliadau diwydiannol, gan ddenu £7 miliwn o fuddsoddiad arloesedd i’r rhanbarth.

Dan ni bron â bod ar ein llawn gapasiti yn adeilad presennol M-SParc, ac wedi gweld partneriaethau anhygoel, cwmnïau deillio, busnesau newydd a chwmnïau sefydledig yn arloesi ac yn creu swyddi ers agor yn 2018. Gyda’r cyhoeddiad diweddar yn Wylfa, a Gogledd Cymru wedi’i dynodi’n Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial, dyma’r amser perffaith i ymuno â symudiad M-SParc a manteisio’n llawn ar y cyfleoedd hyn.

Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc

Bydd yr adeilad newydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol ym menter Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan ddarparu cyfleuster modern ar safle Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Mae Parc Gwyddoniaeth M-SParc yn hanfodol i ddatblygiad a chyflawni rhaglen arloesi ac ymchwil a dylunio Porthladd Rhydd Ynys Môn wrth symud ymlaen.
Bydd yr adeilad newydd yn darparu adnodd a chyfleusterau hanfodol pellach sydd eu hangen i gefnogi datblygiad economaidd gydag arloesedd wrth ei wraidd. Yn amlwg, bydd y fenter hon hefyd yn ategu Rhaglen Ynys Ynni bresennol y Cyngor Sir ac yn cefnogi ein huchelgais ar y cyd i greu economi leol fywiog.

Dylan Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn

Rebecca Evans AS gyda Pryderi yn M-SParc.
Mae M-SParc yn enghraifft o sut y gall buddsoddiad strategol mewn seilwaith ymchwil a datblygu greu swyddi o ansawdd uchel a denu buddsoddiad pellach, tra’n cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwyrddach a mwy llewyrchus i Ogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein buddsoddiad, yn ogystal â chyllid gan Cynllun Twf Gogledd Cymru, wedi darparu £2.5m ychwanegol o gyllid cyfatebol, gan gydnabod y rôl y bydd M-SParc yn ei chwarae wrth sicrhau manteision buddsoddiadau sydd ar ddod o Wylfa, Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Ardal Twf AI.

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru

I ddysgu mwy am yr ecosystem, tenantiaeth ar y safle, a phrosiect Egni, cysylltwch â’r tîm drwy egni@m-sparc.com, neu galwch heibio Caffi Tanio am baned.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.