M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Wythnos Dechnoleg Cymru yn penodi llwyfan digwyddiadau hybrid Cymreig i gynnal uwchgynhadledd ryngwladol

Charlie Jones

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru, sef yr uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol hybrid ddeuddydd a grëwyd gan Technology Connected, sydd i’w chynnal ym mis Mawrth 2023, wedi penodi Haia, y cwmni technoleg newydd o Ynys Môn sy’n arbenigo mewn llwyfannau hybrid ar gyfer digwyddiadau, i gynnal yr uwchgynhadledd ar gyfer cynrychiolwyr byd-eang.

Mae’r digwyddiad, a fydd yn arddangos technoleg o Gymru, ei hecosystem ac yn hyrwyddo Cymru fel canolfan cyfleoedd ar gyfer datblygu a galluogi technolegau, yn dilyn ymlaen o ddigwyddiadau rhithwir llwyddiannus yn 2020 a 2021, lle cyrhaeddwyd cynulleidfa o fwy na 4,500 o bobl ar draws 57 o wledydd.

Cynhelir Wythnos Dechnoleg Cymru 2023 dros dri diwrnod wyneb-yn-wyneb a deg diwrnod rhithwir drwy Haia, a bydd yn cynnig profiad rhyngweithiol i bawb sy’n mynychu, gan ddod â’r gymuned dechnoleg fyd-eang ynghyd i gysylltu, cydweithio a chynnal busnes.

Meddai Avril Lewis, rheolwr gyfarwyddwr Technology Connected, “Wrth ddewis ein partner ar gyfer llwyfan digwyddiadau, fe wnaethom ystyried nifer o lwyfannau rheoli digwyddiadau rhyngwladol. Felly, rydym yn falch iawn o fod wedi dewis Haia, cwmni newydd o Gymru i weithio gyda ni i gyflwyno Wythnos Dechnoleg Cymru 2023 mewn marchnad digwyddiadau hybrid gystadleuol iawn.

“Mae eu llwyfan nid yn unig yn darparu gofod rhyngweithiol i ni ar gyfer ein cynrychiolwyr rhyngwladol, ond mae hefyd yn galluogi ein partneriaid a’n harddangoswyr i gysylltu â busnesau unrhyw le yn y byd. Bydd platfform Haia yn cynnal Wythnos Dechnoleg Cymru fel digwyddiad hybrid, gan gynnig y cyfleoedd gorau a chyfuno manteision technoleg â grym pobl. Gyda siaradwyr, arddangosfeydd ac arddangosiadau o safon fyd-eang, Wythnos Dechnoleg Cymru yw lle mae technoleg yn cwrdd â chyfleoedd.

“Fel rhwydwaith technoleg fwyaf blaenllaw Cymru, mae gallu partneru â Haia yn tynnu sylw at y dalent, y dyfeisgarwch a’r arloesedd anhygoel sydd gennym yma yn y diwydiant technoleg yng Nghymru. Rwyf yn falch iawn o gael gweithio gyda nhw dros y misoedd nesaf ac i gyflwyno digwyddiad gwirioneddol eithriadol ym mis Mawrth.”

Ychwanegodd Tom Burke, Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd Haia, “Rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn helpu â rhoi llwyfan byd-eang i Wythnos Dechnoleg Cymru 2023. Mae’n mynd i fod yn gyfle anhygoel i ni nid yn unig arddangos sut mae ein llwyfan yn gweithio, ond hefyd i weithio gyda Technology Connected i greu uwchgynhadledd dechnoleg hybrid sy’n cynnig profiad rhyngweithiol a dwys i’r mynychwyr. Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw penodol at sut mae Cymru yn lleoliad ar gyfer technoleg, nid yn unig ar gyfer busnesau newydd fel ni, ond hefyd i gwmnïau rhyngwladol.”

Cynhelir Wythnos Dechnoleg Cymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) yng Nghasnewydd, De Cymru rhwng 20fed a 23ain Mawrth 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ei bartneriaid a sut i gael tocynnau ar gael yn www.walestechweek.com

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw