M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Ymunwch â'r
Mudiad M-SParc

Play Video

Pum ffordd y gallwch chi gymryd rhan

Billy yn cyflwyno yn Tanio
1

Dod yn Denant

Mae ein cymuned yn tyfu bob dydd, ac mae ein tenantiaid yn mwynhau cymaint o fanteision gwych o fod yn rhan o deulu M-SParc. O gymorth busnes pwrpasol i fynediad i’n tîm craidd o arbenigedd rhagorol a llawer mwy, gall ymuno â theulu M-SParc helpu i ddatgloi potensial eich busnes!

2

Edrychwch ar Clwb Sparci

Mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac arweinwyr busnes yn bwysig i ni, ac rydym wedi partneru gyda rhai o addysgwyr gorau gogledd Cymru i lansio Clwb Sparci – cyfres o wersi addysgiadol rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc sy’n addysgu amrywiaeth o bynciau cyffrous yn feysydd Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg.

Myfyrwyr o amgylch argraffydd 3D yn Ffiws
Entrepreneuriaid yn Siarad
3

Dod yn Bartner neu Fentor

Os ydych yn rhannu ein hangerdd dros ddatblygu a meithrin y dalent orau yn y rhanbarth, yna beth am ymuno â ni ar ein taith i wneud hynny. Mae ein cymuned fusnes brysur yn llawn egni, ond mae ein tenantiaid bob amser yn chwilio am bartneriaid a mentoriaid newydd i helpu i fynd â’u cwmnïau i’r lefel nesaf. Os hoffech chi roi yn ôl trwy roi amser neu gyngor i’r darpar entrepreneuriaid hyn, cysylltwch â ni.

4

Dewch i'n Digwyddiadau

O Gynhadledd Sgiliau Digidol i ddigwyddiadau buddsoddi mawr, Hac Iechyd a llawer mwy, mae M-SParc wedi datblygu enw rhagorol am drefnu a chynnal portffolio rhagorol o ddigwyddiadau. Rydym yn sicr o gael rhywbeth i danio eich uchelgais, felly beth am edrych ar yr hyn sydd gennym ar y gweill a chofrestru i fynychu un o’n digwyddiadau?

Pryderi ap Rhisiart yn cyflwyno i entrepreneuriaid yn Tanio
Emily Roberts, llun proffil mewn ysfafell cyfarfod
5

Cofrestrwch i'n Cylchlythyr

Beth hoffech chi glywed amdano?
Purple Quotation Mark 66

“Rydym wedi profi ers tro bod M-SParc yn llawer mwy na dim ond adeilad o frics a morter a’n bod ni yma i ysgogi a chefnogi’r sector gwyddoniaeth a thechnoleg ledled Cymru.”

Pryderi ap Rhisiart

Rheolwr Gyfarwyddwr, Parc Gwyddoniaeth Menai

Purple Quotation Mark 99
Pryderi ap Rhisiart, llun proffil mewn ystafell cyfarfod

Gadewch i ni sgwrsio

O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch.

Ffoniwch ni ar 01248 85800 neu anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol .

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw