Gall M-SParc gefnogi busnesau sy’n symud i’r rhanbarth a byddwn yn hapus i helpu wneud eich siwrne a buddsoddi i’r rhanbarth mor hawdd â phosibl.
Mae’n anochel y bydd gennych gwestiynau a phryderon ynghylch buddsoddi a gweithredu mewn tiriogaeth newydd ac mae gennym y profiad a’r wybodaeth i ateb eich cwestiynau. Mae’r cwestiynau y gallech eu hwynebu a’r heriau y byddwch yn eu gweld yn cynnwys:
Llwyddodd Micron Agritech, Cwmni Gwyddelig, i sicrhau cyllid Agri Hack. Roedd hyn yn caniatáu iddynt cael swyddfa newyddyng Nghymru, ac roedd M-SParc yn gallu eu cefnogi drwy ddarparu:
Cafwyd ymweliad masnach â Dulyn ym mis Mawrth 2022, gyda rhai o’n tenantiaid a chynrychiolwyr o’n system eco.
Cafwyd cyfleoedd i gyfarfod ac ymweld â thimau a thenantiaid o Ganolfan Fenter Guinness, Tangent Trinity College Dulyn a TU Dulyn ynghyd â thîm Llywodraeth Cymru dros Iwerddon.
Cafwyd amser gwych yn yr Almaen ym mis Medi. Ymunodd ein tenantiaid Haia, Fortytwoable, PlantSea a Bleeper Services â ni ar yr ymweliad 3 diwrnod lle cawsom gyfle i ymweld â Pharciau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ardal Baden-Württemberg a chwrdd â busnesau newydd rhyngwladol eraill. Cawsom hefyd mynychu’r Uwchgynhadledd Cychwyn Busnes yn Stuttgart, lle cyflwynodd Lois am M-SParc a phwysigrwydd ein hecosystem.
Bu ein hymweliad â MIT ym mis Hydref yn ysbrydoliaeth i’r garfan o 16 a gymerodd ran yn yr ymweliad wythnos o hyd. Gyda chefnogaeth Rhaglen Cyswllt Diwydiannol Llywodraeth Cymru gyda MIT, cawsom gyfle i gwrdd ag amrywiaeth o randdeiliaid yn eco-system MIT. Roedd yr ymweliadau’n ysbrydoledig, ac fe wnaeth y sesiwn dadfriffio a gynhaliwyd yn M-SParc amlygu cyfleoedd a syniadau cydweithredol newydd a ddatblygwyd fel rhan o’r ymweliad.