Taith o gwmpas Cyfleuster Gweithgynhyrchu Hutchinson
Dydd Llun (17/06), cynhaliodd Hutchinson daith o amgylch eu cyfleuster gweithgynhyrchu sy’n arwain y diwydiant i nifer o gwmnïau. Cyflwynwyd y mynychwyr i olwg fanwl ar weithrediadau a thechnolegau blaengar Hutchinson ac roedd yn brofiad rhyngweithiol.
Roedd yn wych gweld cymaint o gynrychiolwyr cwmnïau yn gofyn cwestiynau, yn ymgysylltu ag arbenigwyr Hutchinson ac yn dysgu am eu prosesau gweithgynhyrchu a pheirianneg. Roeddem yn gobeithio bod pawb wedi gadael gyda dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach o’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ar eu safle!
Diwrnod 1: Tynnu sylw at Gryfderau a Chyfleoedd y Rhanbarth
Roedd o’n ddwrnod cyntaf prysur iawn – ond dyna nath neud hi’n un dda! Fe wnaethom gynnal sesiwn banel yn cynnwys ein pum Hyrwyddwr Pwnc, a holwyd am yr heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan y sector ynni gwynt ar y môr. Roedd y sesiwn yn son am rhai meysydd allweddol y sector fel y gadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau, llongau, porthladdoedd, gweithgynhyrchu uwch ac arloesi.
Roedd y trafodaethau’n graff ac yn ysbrydoledig, gan fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu tra hefyd yn nodi’r cyfleoedd ar gyfer twf a chydweithio. Roedd y sesiwn banel yn ffordd wych o gael mewnwelediad i’r cynnydd yr ydym eisoes wedi’i wneud yn y sector ynni gwynt ar y môr yng Ngogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin, ond roedd hefyd yn dangos bod cymaint mwy i’w wneud – ac mae ein Hyrwyddwyr Pwnc yn helpu ni i arwain y ffordd!
Diwrnod 2: Sgyrsiau a Rhwydweithio
Roedd ail ddiwrnod GOW yr un mor ddeniadol a’r cynta. Cafodd y mynychwyr gyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda chynrychiolwyr o Uchelgais Gogledd Cymru ac AMRC Cymru ar ein stondin. Roedd Dan a Matthew yn brysur yn sgwrsio efo unigolion oedd â diddordeb gwirioneddol yn eu rolau a sut maent yn cefnogi’r sector ynni gwynt ar y môr, yn ogystal â The Offshore Energy Alliance.
Fe wnaethom hefyd gynnal sesiwn “Smwddis a Rhwydweithio”! Braf oedd gweld cymaint o bobl yn dangos diddordeb gwirioneddol ym mentrau’r clwstwr yn ogystal ag adborth cadarnhaol ar dwf y clwstwr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Myfyrio ac Edrych Ymlaen
Roedd mynychu Global Offshore Wind efo’r Offshore Energy Alliance yn atgyfnerthu pwysigrwydd rôl y clwstwr ar gyfer cymunedau lleol ar draws Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin.
Mae’r sector ynni gwynt ar y môr yn allweddol i gyrraedd ein huchelgeisiau sero net a chreu buddion economaidd cadarnhaol a chyfraniadau i gymunedau. Mae gwaith i’w wneud i wneud y mwyaf o’r buddion hyn a datgloi’r rhwystrau ond rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan i gyflawni hyn!
Welwn ni chi yn GOW y flwyddyn nesa!
Trafodwch gyda Ffion sut y gallwch chi gymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.