Mae rhai o wyddonwyr gorau’r byd yn dod o Gymru. Mae llwyddiant y gŵr lleol, William Jones o Lanfihangel Tre’r Beirdd ar Ynys Môn, yn bendant yn ysbrydoliaeth. Yn 1706 dyfeisiodd y symbol modern ar gyfer Pi. Dyfeisiwyd arwydd yr hafalnod (=) yn 1557 gan Robert Recorde yn Ninbych-y-Pysgod yn ne-orllewin Cymru.
Ganwyd William Robert Groveyn Abertawe ac ef a ddatblygodd y gell danwydd gyntaf yn 1842, a oedd yn cynhyrchu ynni trydan drwy gyfuno hydrogen ac ocsigen.
Cyflwynodd Alfred Russel Wallace o sir Fynwy theori detholiad naturiol yn 1858, ac fe’i hanfonodd at Charles Darwin heb wybod bod Darwin yntau wedi dod i’r un casgliad.
Datblygodd William Henry Preece o Gaernarfon delegraffi di-wifr a’i gyflwyno yn 1889.
Dim ond 22 mlwydd oed oedd Brian Josephson o Gaerdydd pan enillodd Wobr Nobel mewn Ffiseg am ei waith ar dwnelu cwantwm. Effaith Josephson oedd y darganfyddiad bod uwch-gerrynt yn gallu llifo’n ddiderfyn heb unrhyw foltedd ar waith.
Yn 2008, bu biliwn a mwy o bobl yn gwylio Dr Lyn Evans o Aberdâr yn cychwyn yr arbrawf mwyaf a drytaf erioed. Arweiniodd y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr at ddarganfod yr Higgs boson yn 2012, a fydd yn newid gwyddoniaeth am byth.
Mae gan Brifysgol Bangor enw da am eu rhagoriaeth ym maes ymchwil, yn seiliedig ar hanes y Brifysgol. Yn yr 20fed ganrif, yr Athro Mathemateg o Fangor, George Hartley Bryan, a oedd yn gyfrifol am y wyddoniaeth a oedd yn torri tir newydd ac a fyddai’n sail i sefydlogrwydd awyrennau wrth hedfan Mae’n parhau i reoli sefydlogrwydd awyrennau heddiw.
Yn ystod ei gyfnod fel Athro Ffiseg ym Mangor yn y 1950au a’r 60au, gwnaeth Raymond Andrew ddarganfyddiad hollbwysig ym maes soniaredd magnetig niwclear, a fu’n sail i ddatblygiadau meddygol o bwys. Culhau llinellau NMR gan ddefnyddio techneg o’r enw ‘troelli onglau hud’ oedd y darganfyddiad.
Dr Tom Parry Jones, o Borthaethwy, ddyfeisiodd y breathalyzer electronig, sydd wedi cael ei ddefnyddio i ddal pobl yn yfed a gyrru o amgylch y byd. Graddiodd o Ysgol Cemeg Bangor yn 1958, a dyfarnwyd iddo ac OBE am ei waith.
Mary Sutherland oedd y ferch gyntaf yn y byd i raddio mewn Astudiaethau Coedwigaeth ym Mangor yn 1916. Aeth yn ei blaen i weithio yng Ngwasanaeth Coedwigaeth Seland Newydd lle bu ganddi rôl bwysig yn datblygu gwasanaeth coedwigaeth y dalaith.
Mae gan Gymru ddigonedd o lwyddiannau i’w brolio a bydd M-SParc yn gweithio i greu’r amodau perffaith i ysbrydoli ac i ddatblygu cenhedlaeth newydd o wyddonwyr i’w hychwanegu at draddodiad gwyddonol gwych ein cenedl.
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch chi.