Ystafelloedd Cyfarfod

Mae gennym bedair ystafell gyfarfod wych yma yn M-SParc yn amrywio o ystafell gyfweld fechan i Ystafell Fwrdd Orau Cymru!

Awyddus i ddysgu mwy?

Mae gennym ystafelloedd sy’n addas ar gyfer pedwar, chwech, wyth neu 14 o bobl, ac mae pob ystafell wedi’i theilwra’n arbennig i roi’r profiad cyfarfod gorau posibl i chi a’ch gwesteion.

Mae ein hystafelloedd cyfarfod yn gydnaws â Teams and Zoom trwy eich gliniadur eich hun neu’r cyfrifiadur yn yr ystafell, i’ch helpu i redeg eich galwadau cynadledda yn effeithlon!

Wrth archebu ystafell gyfarfod, atgoffwch eich hun o’r telerau ac amodau, gallwch ddod o hyd iddynt yma!

Daliwch ati i sgrolio i ddarganfod mwy am ein hystafelloedd cyfarfod a’n prisiau.

Photograph of the crisp white boardroom in daylight including a long table, 13 chairs and a presentation screen
Ystafell y Bwrdd

Mae ein hystafell fwrdd wedi'i dylunio i greu argraff. Lle i hyd at 14 o gynrychiolwyr, gyda golygfeydd godidog o Eryri i'w weld o'r balconi.

  • Sgrin LED 75”
  • Opsiynau cysylltedd, VGA, HDMI, Ethernet, WiFi
  • Fideo-gynadledda PTZ HD
Yr Ystafell Gydweithio

Wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, gydag arddull mwy anffurfiol, gallwch chi osod yr ystafell gydweithio mewn ffordd sy'n
gyfleus i chi.

  • Sesiynau rhyngweithiol, gan gynnwys anodiadau a chyflwyniadau
  • AVER VC520 a system PC mini
Low view of the M-SParc collaboration meeting room
Pi meeting room with table in the middle, 6 chairs and a presenting screen, M-SParc Illustrations on the walls
Yr Ystafelloedd Roced a Pi

Detholiad o ystafelloedd cyfarfod cyfforddus, clyd, a preifat, ar gyfer cyfarfodydd mwy ecsglwsif.

  •  Sgrin wal LED 48” gyda phanel cysylltu
  • AVER VC520 a system PC mini

Ein ystafelloedd cyfarfod

Yr Ystafell Fwrdd
(14 person)

£33/awr

£100/hanner-diwrnod

£160/diwrnod

Yr Ystafell Gydweithio
(8 person)

£22/awr

£80/hanner-diwrnod

£120/diwrnod

Roced
(6 person)

£18/awr

£65/hanner-diwrnod

£100/diwrnod

Pi
(4 person)

£14/awr

£50/hanner-diwrnod

£80/diwrnod

Kathryn, llun proffil

Eisiau gweithio yn yr ystafell gyfarfod orau yng Nghymru?

Gall unrhyw un archebu ystafell gyfarfod!

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.